Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yng Ngwlad y Gwyddel.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hawl fel disgynnydd Fitzstephen yn nyddiau Harri'r Ail i dir yn Carlow a Cork, ebai ef; ond nid felly y credai y trigolion, a chododd y Desmoniaid yn 1576 mewn gwrthryfel yn ei erbyn. Yr oedd hir ddioddef wedi eu dysgu mai gwaith ofer oedd disgwyl trugaredd a chyfiawnder gan Sais. Ceisiwyd cymorth Ffrainc, ond glaniodd Fiztmaurice ac ychydig Yspaenwyr yn Smerwick. Unodd Syr John o Desmond hwy,—newydd ei ryddhau o garchar Dublin ar yr amod iddo gadw heddwch; a ffodd ei frawd Iago o'r carchar i gynorthwyo yn yr ymdrech am anibyniaeth. Ymgasglodd y Desmoniaid ar hyd glannau y Shannon a godreu mynyddoedd Kerry dan arfau, ac unwyd â hwy gan dair mil o denantiaid y Geraldines wrth goedwig fawr heb fod nepell o Limerick. Collodd eu llywydd, Fitzmaurice, ei fywyd yn fuan; ond llwyddodd ei olynydd, Syr John o Desmond, i yrru'r Saeson a'i harweinydd, Syr William Drury, i hen gastell Killmallock. Drud i'r Gwyddelod fu canlyniad y