Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yng Ngwres y Dydd.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Os prudd ein cri,
Mae'n well i ni—
Bydd gwenau yn felysach;
A storm y byd
Sy'n gwneud o hyd
Y cwmni yn anwylach!

Byd "cystudd mawr"
Vw byd y llawr,
A'r groes o hyd i'w chodi;
Ond pur fwynhad
Y nefol wlad
Fydd diolch byth am dani!