Y "PETHAU MWY."
[Ti a gei weled pethau mwy na'r rhai hyn.]
MAE'n hyfryd dringo bryniau'r byd,
I gwmni'r eangderau mawr;
A gwel'd dros "orwel" ambell bryd,
Belydrau clir y nefol wawr;—
Rhyw awydd am y "pethau mwy,"
A hiraeth am eu meddu hwy.
Anfeidrol ydyw cyfoeth gras,
A dwyfol rin Ei gariad drud,
A'r rhai gadd unwaith brofi'r blâs
Sy'n gofyn am y "mwy" o hyd;
A'r Duw rodd awydd "pethau mwy"
Sy'n sicr o'u diwallu hwy.
Paham 'rym heddyw'n digio'r nef
Wrth ofyn am y "bach" a'r "gwan?"—
Yn ameu grym Ei eiriau Ef,
Heb wel'd y "dwyfol" mewn un man?—
Ein Tad yn cynyg "pethau mwy,"
A ninnau yn eu gwrthod hwy!
Nid ydyw'r moroedd maith bob un,
Ond dafnau mân o foroedd mwy;
Ac nid yw'r huan mawr ei hun
Ond llusern fechan iddynt hwy;
Y pethau gwell!—y "pethau mwy!"
Tragwyddol yw eu cyfoeth hwy.