Y "FFORDD HONNO."
[Canys yr oedd Efe i ddyfod y ffordd honno.]
I GEISIO gweled Iesu cu,
Mawr bryder fu, a gwylio;
Ond cyflawn dâl a gadd y dyn,
Pan wybu fod yr Iesu Ei hun
I ddyfod y "ffordd honno."
Cerdd dithau lwybyr "gras y nef"—
A gwylaidd lef ei deithio;
Os hir dy "ddisgwyl" ambell bryd
Fe fydd yn werth y draul i gyd—
Mae'r Iesu'n dod "ffordd honno."
Cawn arw riwiau yn y byd,
A rhaid o hyd eu dringo,
Bererin ar y creigiau serth,
"Yn ol dy ddydd y bydd dy nerth"—
Bu'r Iesu Ei hun "ffordd honno."
A phan ddaw'th dro i rodio'r glyn,
A thithau'n syn ymlwybro;
Nid unig fydd y dyffryn du
Tra o dy gylch bydd engyl cu—
Mae Iesu'n myn'd "ffordd honno."
Wrth borth y byd mae ambell un,
Yn flin, a bron diffygio;
Ond er mor chwerw yw ei gwyn,
Ni welir byth un angel mwyn
Yn myned y "ffordd honno."