Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yng Ngwres y Dydd.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

SWYNION MEHEFIN.

MAE'r adar yn canu,
A'r blodau yn gwenu,
A phobpeth o'm deutu mor dlws;
A'r awel dyneraf
Yn holi am danaf
I'm croesaw ar riniog y drws.

Mae eithyn y mynydd,
A meillion y dolydd,
A'u gwisgoedd yn newydd bob un;
Ac nid yw'r glaswelltyn,
Yn ymyl y blodyn
Gywilydd i ddangos ei hun.

Mae'r gornant fynyddig
A'i llais mor garedig,
Yn dweud wrth y cerrig i gyd,
Am nwyf a rhialtwch—
Mwynhad a hyfrydwch—
Digymar brydferthwch y byd.

Ar wely y cefnfor
Mae'r tonnau'n dygyfor,
I ddweud am y "rhagor" ystôr;
O hyd ar y glannau,
Hyd bellaf derfynau,
Yn adsain "dyfnderau" yr Ior.