CAN Y BARDD.
AR fore o wanwyn,
Yng nghwmni aderyn,
A deilen pob brigyn yn hardd;
I Dduw pob bendithion,
Am fyd llawn o swynion,
Cân "moliant" a ganai y bardd.
Ar fore gwyn bywyd,
Ym mraich ei anwylyd,
Hyd lwybrau mân flodau yr ardd,
A'i geiriau mwyn tirion
Oedd wrth fodd ei galon,
Cân "cariad" a ganai y bardd.
Pan ddaeth cwmwl adfyd,
Dros wybren ei fywyd,
Heb flodyn, na dim byd yn hardd;
Ei lwybyr yn arw,
A'i ruddiau yn welw,
Cân "hiraeth" a ganai y bardd.
Pan chwalwyd cymylau
Cadd drem ar y borau,
A phobpeth yn brydferth a hardd;
Wrth wel'd ei anwylyd
Ar "lan afon bywyd"
Cân "gobaith" a ganai y bardd.
Byd cyfnewidiadau
Yw byd gorthrymderau,
Heb ddim ynddo'n aros yn hardd;
Ond uwch ei gymylau,
Mae cartref caniadau,
Ac yno cewch oreu y bardd!