Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ynys y Trysor.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pan yn sydyn y meddyliodd Harri yr âi i lawr i'r forecastle i gyrchu'r llyfr a brynasai yn Valparaiso at ddysgu Hispaneg. Pan ar ben grisiau'r forecastle, clywai siarad odditano, ac heb feddwl dim drwg, safodd i wrando, ac er ei syndod, pwy oedd yno ond ei ddau elyn. Tremiodd i lawr yn ochelgar gan blygu'i ben ymlaen, a gwelodd fod ganddynt 'chart' wedi ei thaenu ar y bwrdd o'u blaen.

"Hon ydi'r ynys yn siwr i ti," clywai Twm Dafis yn ddweud. " Rahiti, 'rydw i 'n cofio, oedd ei henw hi, ac yr ydan ni'n siwr o basio'n bur agos iddi hi cyn wythnos i heddiw, os daliwn ni ar y cwrs yma." "Faint haws fyddwn ni o wybod ei henw heb wybod ymhle y cuddiwyd y trysor," oedd ateb grwgnachlyd William Jones.

"'Rydw i 'n cofio'r plan," ebe Twm Dafis, " ond dydw i ddim yn hollol siwr. Mae yno goeden "Oes, lawer o goed, mae'n debyg," meddai William Jones yn wawdlyd.

"Ond mae'r plan, os ydw i 'n cofio'n iawn," ebe Twm Dafis, " yn dangos rhyw un goeden, ac yn ymyl honno mae'r trysor."

"A job ddifyr fydd chwilio am dani ynghanol degau o goed, mae'n debyg," ebe William Jones. "Rhaid i ni gael rhywbeth i'n helpu ni i gael hyd iddi hi."

"Mae'n werth treio'n siwr i ti, hyd yn oed heb y plan, gan na allwn ni mo'i gael o," meddai Twm Dafis, " chawn ni byth gystal cyfle. Wyt ti ddim am dynnu'n ôl, wyt ti?

Gostyngodd William Jones dôn ei lais i ateb, fel na allai Harri ei glywed. Ceisiodd blygu fwy ymlaen, ond trwy ryw anhap, llithrodd ei droed, a syrthiodd yn bendramwnwgl i'r llawr yn bur agos atynt. Pe buasai wedi disgyn o'r lleuad, ni allai ei ddyfodiad sydyn achosi mwy o fraw a synedigaeth iddynt. Nid yw'r iaith ddefnyddiwyd ganddynt yn gymwys i'w hargraffu. Gan yngan rhegfeydd arswydus, gafaelodd y ddau yn Harri gan feddwl yn sicr ei guro am wrando ar eu hymddiddan. Nid oedd amheuaeth yn eu meddwl