Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ynys y Trysor.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oddiar ben blaen y dec, ond gan eu bod yn agoshau at ynysoedd a chreigiau peryglus, rhaid oedd wrth ofal manylach, ac felly wylied o uchter lle y gellid gweld ymhellach. Yr oedd yn noson glir, ddigwmwl, ac eisteddodd y bachgen i lawr i wylio ymlaen ac o'i ddeutu. Gwyddai mai'r mate oedd wrth y llyw am yr awr gyntaf, a'r gweddill o'r wyliadwriaeth mewn amrywiol fannau ar hyd y dec. Nid oedd Harri wedi bod yn ei orsaf uchel ond prin ddeng munud nag y clywai sŵn rhywun yn dringo i fyny'r rigging ar y chwith iddo. Ni allai ddyfalu pwy oedd yno, gan nad oedd gan neb neges i fod yno, a chwiliodd am ei lawddryll gan yr amheuai berygl. (Yr oedd wedi ei gadw ar ei berson er adeg y digwyddiad yn y forecastle.) Gwelai drwy'r gwyll rywun yn dringo tuag ato'n lladradaidd, a gwyliai'n ofalus er ceisio gweld pwy ydoedd. Ond tra 'roedd wedi ymgolli'n gwylio'r hwn a ddringai'n araf ar y chwith iddo, gafaelwyd ynddo'n sydyn gan rywun o'r tu ôl, a phan drodd ei ben, gwelodd law-ddryll yn cael ei ddal yn ei wyneb gan Twm Dafis.

"Paid dweud yr un gair," meddai Twm Dafis rhwng ei ddannedd, "neu byddi'n ddyn marw. A rho'r pistol 'na i mi."

Gwelai Harri nad gwiw iddo anufuddhau, ac felly ildiodd y dryll.

"Wnei di ddim chwaneg o niwed hefo hwn'na, machgen i," meddai Twm Dafis, gan ei daro'n ei wregys.

Erbyn hyn yr oedd y dringwr arall, William Jones, fel y gellwch dybied, wedi cyrraedd hyd at ei ochr, a dyna lle'r oedd Harri rhwng ei ddau elyn ar ddemyn o bren lathenni uwchben bwrdd y llong ac yn meddwl yn sicr fod ei awr olaf wedi dod.

"'Rydan ni am roi un cynnig i ti eto i ildio'r papur 'na i ni," ebe William Jones, " ac os gwrthodi di, mi elli ddweud dy bader."

"Dydi o ddim gin i," ebe Harri.

"Dywed ymhle mae o, ynteu," ebe Twm Dafis.