yng ngwaelod y llong cyn ei gadael, rhag iddynt eu dilyn i'r ynys, a chefnogai Simpson ef. Ond ni chydsyniai William Jones a Thwm Dafis.
"Faint well fyddwn ni o suddo'r llestr?" meddent, "'does dim peryg i Capten Evans ddod ar ein hôl. 'Dwyr o ddim am yr ynys."
"Ond mi ŵyr hwn," ebe Simpson.
"Mynd a fo hefo ni ydi'r gore i ni," ebe William Jones.
Gwelai Harri Alffonso'n gafael yng ngham ei gyllell. "Ffwrdd a fo i'r cwch, ynteu," ebe Twm Dafis, "Mae'r amser yn mynd, a rhaid i ni dreio bod o'r golwg cyn iddi oleuo."
Rhyddhawyd ef oddiwrth y rigging yn frysiog, er na ddatodwyd y rhwymau am ei draed a'i ddwylo, a gollyngwyd ef i'r cwch, lle y dodwyd ef yn swp i orwedd yn y pen ôl. Yna rhwyfwyd yn gryf ac yn gyflym ymaith, a gwelai Harri trwy'r gwyll y llestr hardd yn gorwedd yn berffaith lonydd yn y dwfr. Llawen iawn oedd y pedwar cnaf oherwydd llwyddiant eu cynlluniau, ac ymorfoleddent yn y gobaith o feddiannu'r cyfoeth oedd wedi ei guddio yn Rahiti. Cymaint oedd eu llawenydd fel yr anghofiwyd yn llwyr am Harri. Ond yr oedd ef wrthi'n brysur. Darganfu nad oedd y rhwymau am ei draed a'i ddwylo agos mor dyn a phan yr oedd yn rhwym wrth y rigging, a chyn pen ychydig iawn llwyddodd i gael ei hun yn rhydd. Yna, gan wylio'i gyfle, gollyngodd ei hun mor ddistaw ag y gallai dros gefn y cwch i'r dŵr, ond, er ei ddistawed, clywyd y sŵn, a throdd y pedwar i edrych yn ôl. Rhegodd Twm Dafis yn arswydus pan welodd fel yr oedd Harri wedi dianc, a mynnai ollwng ergyd ato yn y dwfr. Ond haws dweud na gwneud hynny. Nofiodd Harri dan y dŵr am rai llathenni, a phan gododd i'r wyneb, nid oedd yn hawdd iddynt ei leoli o'r cwch yn y gwyll. Ffolineb fuasai iddynt ei ddilyn, gan mai mynd o olwg y llong cyn toriad gwawr oedd yn bwysig iddynt. Felly dywedodd William Jones, "Gad'wch iddo fo; mi fydd siarc wedi cael gafael ynddo cyn y cyrhaedda'r llong," ac i ffwrdd a hwy