XI. Y LLONG-DDRYLLIAD
YR oedd y bore hwnnw—y bore cyntaf wedi'r digwyddiad dieithr—yn fore tesog, yr haul yn bwrw'i belydrau tanbaid arnynt o wybr ddigwmwl, a'r môr cyn llonydded a llyn melin. Nid oedd ton yn cynhyrfu'i wyneb, a safai'r llestr fel pe wedi ei cherfio ynddo. Yr oedd rhyw drymder annaturiol yn effeithio ar bawb—rhyw ddistawrwydd bygythiol, ac edrychai'r Capten yn bryderus. Tua chanol dydd, cododd awel wannaidd o'r tu ôl iddynt, awel boeth fel o ffwrn, ond awel o wynt ydoedd, ac yr oedd yn dda ganddynt ei chael er mwyn cael symud o'u hunfan. Lledwyd rhai o'r hwyliau i dderbyn yr awel, a gwelwyd y llestr yn mynd rhagddi. Ond yn sydyn, duodd y ffurfafen o'u hôl. Gwelent y gorwel fel pe yn agoshau atynt yn gyflym, ac nid cymylau, ond un cwmwl mawr, du fel inc, yn dod tuag atynt gyda rhyw gyflymder arswydus. Dolefai adar yn bruddaidd yn yr hwylbrennau. Duodd y ffurfafen fwy-fwy, a chuddiwyd yr haul gan y duwch. Ni welsai ac ni theimlasai Harri ddim cyffelyb o'r blaen yn ei fywyd. Os ystorm oedd yn dod, yr oedd yn hollol wahanol i'r ystormydd a brofasai ym Môr y Werydd. Ond yn sydyn, tra'r oedd pawb yn gwylio agoshad y cwmwl du, ac wedi eu cyfareddu ganddo fel na allent wneud dim arall, disgynnodd yr ystorm arnynt gyda rhyw ruthr ofnadwy. Chwibianai'r gwynt yn yr hwylbrennau, fflachiai'r mellt a rhuai'r daran, a disgynnai'r glaw yn genllif. Nid oedd modd symud ar hyd y dec heb berygl i fywyd, ac yr oedd y llestr yn gwbl at drugaredd yr elfennau dinistriol. Chwipid y môr i fyny'n donnau mwy a mwy bob munud, a chodid y llestr bron oddiar wyneb y dŵr gan rym y gwynt; ac er mai cynnar yn y prynhawn ydoedd, yr oedd yn dywyll fel y fagddu. Teimlent eu bod yn cael eu cludo ymlaen yn gyflym i rywle, ond nid oedd ganddynt syniad i ble. Mae'n wir y gallent