lywio, ond pa faint gwell fyddent o lywio heb chart na help o fath yn y byd i lywio wrtho? Gwaeth na'r cyfan, yr oeddynt yng nghymdogaeth Ynysoedd Môr y De. Yn y rhan hwnnw o'r byd, y mae miloedd lawer o ynysoedd wedi eu gwasgaru yn fân dyrrau ar hyd y môr—ynysoedd cwrel, gan mwyaf—ynysoedd a'r graig honno, cwrel yn sylfaen iddynt—adeiledir gan filiynnau afrifed o fân bryfaid dan wyneb y dwfr, ag sy'n ffurfio'n ynysoedd trwy i bethau gael eu cludo ar y creigiau, gan y môr ac adar a thrwy gyfryngau eraill. Ac yng nghymdogaeth ynysoedd o'r fath, mae llawer o greigiau cudd—y pryfaid heb gwblhau eu gwaith arnynt—rhai peryglus iawn i long daro a thorri arnynt. Ni wyddent ar fwrdd yr Arfonia" pa eiliad y dryllid eu llestr yn erbyn craig o'r fath, ac yr hyrddid hwy i dragwyddoldeb. Amser ydoedd i'r mwyaf anystyriol ddifrifoli. Os gweddiodd Harri ryw bryd, dyna'r pryd y gwnaeth. Meddyliai am y pedwar yn y cwch. Ai tybed eu bod wedi cyrraedd i ddiogelwch cyn i'r ystorm dorri arnynt? Os nad oeddynt, druain ohonynt!
Gwaethygu'n hytrach na gwella 'roedd y storm fel y cerddai'r dydd ymlaen, a chyn y nos yr oedd yr ychydig hwyliau oedd heb eu plygu wedi eu rhwygo'n ribannau. Yr oedd pawb o'r dwylo yn bryderus wrth wynebu'r nos (er nad oedd modd iddi fod yn llawer tywyllach), ac wedi ymgasglu ynghyd ym mhen ôl y llong yn ymyl y llyw, lle y ceisient gysgodi orau gallent. Yr oedd y Capten wedi eu gorchymyn i'r fan honno, gan y tybiai eu bod yn fwy diogel yno rhag i rywbeth ddisgyn arnynt.
Rywdro yn y nos, pa bryd ni allai neb ddweud, clywyd trwst mawr ym mhen blaen y llong. "Dyna'r mast blaen wedi mynd," ebe'r Capten, "rhaid torri'r rhaffau sydd ynglŷn wrtho rhag iddo fod yn achos i suddo'r llong."
Rhedodd nifer o ddynion ymlaen, Harri yn eu plith, gyda chyllill a bwyeill i dorri'r rhaffau, ac wedi gwneud hynny, syrthiodd y mast drosodd i'r dŵr, gan fynd a rhan o ymyl ochr y llong i'w ganlyn. Wrth