Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ynys y Trysor.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar ei aswy—llinell wen o ewyn y don a welid mor bell ag y cyrhaeddai'r llygad, ond ar yr ochr dde, gwelai agorfa yn y reef—bwlch gweddol lydan trwy yr hwn y torrai'r tonnau mawr i aflonyddu ar dawelwch y lagoon. Pe gellid gollwng cwch i'r dwfr, feallai y gellid ei arwain trwy'r bwlch i ddiogelwch yr ynys. Ond antur beryglus fyddai; yr unig beth i gyfiawnhau'r ymgais oedd y ffaith bod mwy o berygl o aros yn y llong. Galwodd y Capten ar y mate ato i ymgynghori ag ef, ac wedi siarad dipyn â'i gilydd, daeth y ddau i egluro'r amgylchiadau i'r dynion. Wrth gwrs, ni ellid dweud pa faint o niwed oedd wedi ei wneud i'r llong gan y creigiau. O bosibl yr arhosai yno yn eithaf sefydlog hyd nes i'r ystorm ostegu. Pe baent yn sicr o hynny, aros ar y bwrdd fyddai'r cynllun diogelaf. Ond gan fod y rhan blaen yn sefydlog ar y graig, a'r rhan ôl yn gorffwys ar, neu yn y dwfr, heb ddim arall yn ei gynnal, y perygl oedd i'r llong dorri ac ymollwng yn y canol; i'r rhan ôl wedi hynny suddo yn y dyfnder, ac i'r rhan blaen wedi colli'r cydbwysedd ei ddilyn i'r dyfnder. Cyd-olygai'r ddau swyddog mai dyna'r hyn oedd debycaf o ddigwydd. Yr oedd y nos yn dyfod, a'r ystorm fel pe am barhau ddiwrnod arall. Nid oedd dim amser i'w golli; yr oedd pob tôn fel pe'n bygwth dinistrio'r llestr, a phenderfynwyd i wneud yr ymgais beryglus gyda dau gwch, y naill dan ofal y Capten, a'r llall dan ofal y mate, gan hyderu y llwyddid i gael un o'r cychod, os nad y ddau, i ddiogelwch. Ac yna aed ati i baratoi'r cychod. Anodd oedd clywed gair gan ruad y tonnau'n torri ar y reef, a gorchwyl anodd, yn ymylu ar amhosibl, oedd cael y cychod i'r dŵr dan y fath amgylchiadau dychrynllyd. Cafwyd cwch y mate i'r dwfr yn gyntaf, a llwyddodd i adael ochr y llong gyda saith o'r dwylo ynddo. Yna prysurwyd i gael cwch y Capten yn barod, a'r un modd llwyddwyd i adael y llong gyda'r gweddill o'r criw, a Harri yn eu plith. Amhosibl bron oedd rhwyfo gan fel y teflid y cwch fel pluen ar y tonnau, a rhaid oedd iddynt afael yn dyn yn eu seddau rhag mynd drosodd i'r dwfr. Ond byr hoedl gafodd cwch y Capten.