Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ynys y Trysor.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyn ei fod wedi mynd ugain llath oddiwrth y llestr, tarawyd ef dan ei ystlys gan don aruthrol. Dymchwelwyd y cwch, a thaflwyd pawb i'r môr. Ceisiodd pawb wneud ati i nofio—ond, druain ohonynt! gobaith gwan oedd i'r nofiwr gorau yn y fath ystorm. Yr oedd y tonnau'n chwarae â hwynt, ac yn eu taflu fel y mynnent. Teimlai Harri ei hun yn cael ei godi gan don fawr. Am amrantiad, ar frig y don, gwelai ei hun yn cael ei gludo tua'r llestr, a chauodd ei lygaid mewn dychryn gan ddisgwyl cael ei hyrddio yn erbyn ei hochr a'i ladd. Ond, er ei syndod, cafodd fod y don wedi ei godi'n ôl i'r llong,—i'r rhan ôl oedd eisoes yn y dŵr! Teimlodd goed y dec dan ei draed; neidiodd i gydio gafael yn rhywbeth rhag cael ei gludo'n ôl i'r môr gan y don wrth iddi gilio, a llwyddodd. O! drugaredd! yr oedd unwaith eto'n ddiangol, er mai prin y gallai gredu hynny, gan yr ymddangosai'r peth bron yn wyrthiol. Offrymodd ddiolch i'r Hwn sydd yn eistedd ar y llifeiriant ac yn marchog gwynt y nen am ei arbed. Daeth hen gegin Bwlchglas a'i fam ar ei deulin yn gweddïo dros y bachgen, a'r Beibl mawr yn agored ar y ford, yn fyw i'w feddwl y munud hwnnw. Ond nid gwiw iddo ymgolli mewn synfyfyrdod; cofiodd nad oedd diogelwch parhaol iddo yn y fan honno, beth bynnag am ben blaen y llong. Ymgripiodd yn araf a chyda chryn anawster ar hyd ystlys y llong i'w phen blaen oedd ar y graig ac yn uchel o'r tonnau. Ac wedi cyrraedd yno, trodd i edrych beth a ddaethai o gwch y mate, ond ow! nid oedd i'w weld yn unman. Rhaid bod hwnnw hefyd wedi cyfarfod â'r unrhyw dynged a chwch y Capten. Edrychodd yn hir ac yn fanwl i weled a oedd rhywun o'r dynion yn y weilgi'n ceisio nofio, ond ni allai weled neb. Neb! Yr oedd ei hunan o'r holl griw, ac wedi ei achub mewn modd gwyrthiol. Pan dorrodd ystyr llawn ei sefyllfa ar ei feddwl, torrodd y bachgen dewr i wylo'n hidl. Wylai wrth feddwl am golli'r Capten Evans fuasai mor garedig wrtho ef ar hyd y fordaith, ac am y dynion eraill gyfarfuasai â dyfrllyd fedd mor bell o'u cartrefi, a Parsons, ei gyfaill cu, a ysgubwyd i'ẅ ddiwedd mor