ddirybudd. Ac yntau'n unig ar y llestr o'r holl ddwylo! Tra'n diolch am ei waredigaeth, wylai wrth feddwl am ei unigedd—wedi ei adael ei hunan ar y llong ddrylliedig. Hyd yn oed ped arbedid ef dros yr ystorm, ac iddo allu mynd i'r ynys, ni wyddai beth a allai ddigwydd iddo yno, a gobaith gwan oedd ganddo i weld Minymor, a'i fam a chyfeillion ei febyd byth mwy. Teimlai ei galon ymron torri—yr oedd y digwyddiadau ofnadwy yr aethai trwyddynt wedi gwneud eu hôl arno. Eisteddodd ar ddam o bren yn ei ddigalondid, a daeth cwsg i'w gymryd yn ei breichiau, iddo anghofio ei holl ofidiau. Ynghanol yr ystorm, er gwaethaf y peryglon yr oedd ynddynt, cysgodd fel y cwsg y lluddedig—yn drwm, yn dawel, ac yn hir. A phan ddeffrodd, yr oedd gwawr diwrnod arall wedi torri arno, a'r haul yn siriol wenu, a'r ystorm fawr drosodd, er bod y tonnau'n dal yn gynhyrfus fel effaith y chwipio fu arnynt. Nid hir y bu cyn sylweddoli ei sefyllfa; ac er yr arosai atgofion trist am y dydd blaenorol a'i drychinebau, yr oedd gobaith newydd dan ei fron, a gwaed bywyd ieuanc hoyw yn rhedeg yn ei wythiennau. Rhaid oedd iddo gael lluniaeth; yr oedd wedi bod ers deuddydd heb damaid, a'i gylla'n wag. Aeth i'r forecastle, a gwnaeth fwyd iddo'i hun. Wedi ei ddigoni, daeth yn ôl i'r bwrdd, a dechreuodd edrych yn fanylach o'i amgylch, er mwyn penderfynu beth i'w wneud ymhellach. Er y gwelai nad oedd bellach berygl uniongyrchol iddo yn y llong, gan fod yr ystorm wedi gostegu, eto ni wyddai pa mor fuan y deuai ystorm arall a gwblhai ddrylliad y llong, ac felly nid oedd dinas barhaus iddo ar y llong. Rhaid edrych felly sut y gellid mynd i'r ynys, ond cwestiwn pwysig arall cyn hwnnw ydoedd, A ydoedd yn ddiogel iddo fynd i'r ynys? Ai tybed fod arni drigolion? Clywsai a darllenasai hanesion dychrynllyd am greulonderau a barbareiddiwch ynyswyr Môr y De,—y modd y lladdent ac y bwytaent ddynion gwynion,—a gwell ganwaith ganddo drengi ar y llong na mynd i'r ynys i gyfarfod â diwedd o'r fath hynny.