Aeth at ymyl y llong i edrych yn fanylach ar yr ynys. Synnodd at ei phrydferthwch. Yr oedd fel darn o baradwys yng nghanol yr eigion, gyda thywod gwyn, ariannaidd ar ei glan, a'r planwydd yn tyfu ymron hyd i lan y môr, a'u cysgod i'w weld yn nyfroedd tawel y lagoon. Isel ydoedd yr ynys gyferbyn ag ef, ond draw yn y pellter gwelai fod y tir yn ymgodi i fryn tra uchel. Edrychai'r lan yn ei ymyl; gallai nofio yno yn hawdd, pe bai angen. Ond ei amcan cyntaf oedd ceisio sicrhau a oedd trigolion ar yr ynys ai peidio. Nid oedd arwyddion o fywyd dynol mor bell ag y gwelai, ond wrth gwrs, nid oedd hynny yn profi dim. Gallent fod fwy i mewn yn yr ynys, neu ar ochr arall iddi. Penderfynodd aros ar y llong hyd drannoeth, deued a ddeuai, a chymryd y diwrnod hwnnw i wneud paratoadau tuag at lanio y pryd hwnnw, os na welai yn y cyfamser bobl ar yr ynys. Ac erbyn ystyried, gwelai na allai fynd i'r ynys ond drwy nofio hyd nes i'r môr dawelu, gan mai trwy'r un bwlch yn y reef ag y bwriadai'r Capten fynd, y byddai raid iddo yntau fynd, gan nad oedd modd mynd oddiar y llong i'r lagoon ar ei gyfer trwy fod y llong, hyd y gallai weled, ar yr ochr agosaf i'r môr o'r graig. Aeth ati i gynllunio ar gyfer trannoeth. Gwnaeth ymchwiliad manwl trwy'r llong am y pethau a garai fynd ag ef i'r lan. Y peth cyntaf i feddwl amdano oedd ymborth. Aeth i'r ystorfa, a chafodd fod yno sŵm da o ddefnydd ymborth, heb ond ychydig ohono wedi ei wlychu, a llawenhai wrth weld fod yno ddigon i'w gynnal ef am fisoedd. Rhaid fyddai iddo hefyd wrth lestri, a chasglodd ynghyd yr hyn a dybiai y byddai arno eu hangen. Gwelai y byddai arno angen am lu o bethau eraill os oedd i fyw'n hir ar yr ynys, ond rhaid oedd yn gyntaf gynllunio sut i'w cael i'r lan. Yr oedd un cwch yn aros ar y llong o'r pedwar oedd ganddi'n cychwyn, ond yn crogi uwchben y dec yr oedd, a sut byth y gallai un bachgen ei dynnu oddiyno a'i gael i'r dwfr? Ymddangosai'r gorchwyl yn amhosibl, ac aeth i chwilio am ddarnau o goed gan feddwl gwneud raft. Cafodd mewn gwahanol fannau chwech o blanciau
Tudalen:Ynys y Trysor.djvu/124
Gwedd