Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ynys y Trysor.djvu/127

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn sydyn. O'i flaen gwelai adeilad bychan, tebyg i dŷ o goed. Teimlai ei galon yn dechrau curo'n gyflym, a neidiodd o'r tu ôl i goeden i ymguddio, Gwasgai goes y pastwn yn dyn yn ei law dde, a'r dryll yn ei law chwith. Wedi gwylio am rai munudau heb weld neb, na dim arwydd o fywyd, anturiodd yn ochelgar ymlaen, ac felly o goeden i goeden nes cyrraedd hyd at y bwthyn. Yn lladradaidd agoshaodd at yr agorfa iddo, a syllodd i mewn. Yr oedd yn wag a dim arwydd bod neb wedi bod yno ers cryn amser. Ond yr oedd yn amlwg iddo fod yn drigfa i rywun rywdro, pa beth bynnag a achosodd i'r cyfryw fynd oddiyno. Wedi archwilio'r bwthyn yn fanwl, gwelodd y gwnai eithaf cartref iddo yntau am ysbaid, hynny yw, os na chai fod rhywun arall yn ei hawlio. Gan ei bod bellach wedi mynd ymhell i'r prynhawn, penderfynodd ddychwelyd i'r man y gadawsai y cwch, ac yn hytrach na mynd yn ôl y ffordd y daethai, ceisiodd unioni am y lle er mwyn gweld mwy o'r ynys a'i ragolygon ar y ffordd. Trwy goedwig 'yr aeth bron bob cam o'r daith—y coed mewn rhai mannau yn llwyni, a mân ddrysgoed yn atal ei daith. Gwelai fod yr ynys yn neilltuol o ffrwythlon; yr oedd yno goed cocoanuts a bananas afrifed, a rhoes hyn sicrwydd iddo nad oedd berygl iddo newynu yno. Gwelodd hefyd nifer o greaduriaid tebyg i foch yn dianc o'i flaen i ymguddio, a dyna'r unig fath ar greadur a welodd. Ni byddai raid iddo felly fyw ar ffrwythau'n unig, ond cael rhyw foddion i ddal y moch.

Wedi cyrraedd at y cwch, cludodd y llwyth ohono i'r lan, ac wedi eu dodi mewn man y tybiai y byddent ddiogel hyd drannoeth, penderfynodd ddychwelyd i'r llong dros y nos i gysgu, gan f od arno eisiau dudo llawer eto o bethau o'r llong i'r lan at ei wasanaeth. Aeth yn ôl yn syth at ben y llong dros y lagoon, ac nid drwy'r bwlch i ochr y môr i'r reef. Rhwyfai yn ôl yn hamddenol gan syllu i ddyfroedd y lagoon. Rhyfeddai weld y dwfr mor glir; er ei fod yn ddwfn iawn, yr oedd yn glir fel y grisial, a gallai weld y planhigion ar ei waelod, a phob math o greaduriaid, rhyfedd a dieithr iddo,