XII. BYWYD AR YR YNYS
YCHYDIG hamdden a gymrodd Harri yn ystod yr wythnosau cyntaf ar yr ynys i'w harchwilio, gan mor brysur ydoedd yn trefnu'r tŷ. Ond wedi gorffen y gwaith hwnnw, penderfynodd gymryd taith trwy'r ynys er mwyn dod i wybod ychwaneg yn ei chylch. Cyn cychwyn, gwnaeth iddo'i hun fwa a saethau, gan y gallent fod o wasanaeth iddo er hunan-amddiffyniad, neu o bosibl i sicrhau cig ffres pe digwyddai gyfarfod rhai o'r moch a welsai y diwrnod cyntaf. Ymboenodd hefyd dipyn i ddysgu defnyddio'r bwa—arf anghynefin iddo—cyn cychwyn i'w daith. Gwir bod y llaw-ddryll ganddo, ond prin oedd ei ergydion, a byddai raid iddo eu cynilo, rhag ofn y byddai'n dda iddo wrthynt yn erbyn gelynion.
Un bore'n blygeiniol, cychwynodd ar ei bererindod, gan gymryd ychydig fwyd gydag ef. Ni wyddai faint yr ynys, a phosibl y cymrai fwy nag un diwrnod iddo wneud ei daith. Cychwynodd i fyny gyda'r afon fechan a redai heibio'r bwthyn, gan fwriadu gwneud am y bryn uchel a welsai oddiar fwrdd y llong. Fel y disgwyliai, gwelai'r holl ynys o ben y bryn, a'r môr yn ei hamgylchu. Ynys gymharol fechan ydoedd— rhyw bedair milltir o hyd, ac ychydig yn llai ar ei thraws. Gwelai ei bod yn ynys goediog, a bod cors yn ymestyn ar ei thraws, gan ei rhannu bron yn ddwy. Gwelai fod y rhan oedd y tu draw i'r gors—y pen dwyreiniol—yn ymddangos yn fwy coediog a ffrwythlon na'r rhan gorlleẃinol lle 'roedd y bwthyn, ac yn hwnnw codai'r tir i fryn pur uchel. Draw tua'r gorllewin a'r gogledd-orllewin, gwelai'r ynys arall a welsai o'r blaen —ymddangosai'n ynys fawr—cryn lawer yn fwy na'r un yr oedd ef arni, a mynydd-dir lled uchel arni, ar yr hwn y gorffwysai cwmwl gwyn.