Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ynys y Trysor.djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dryll. Taniodd hwnnw gan ei bwyntio tuag i fyny, a bu sŵn yr ergyd yn ddigon i ddychrynu'r fam, ac i'w gyrru nerth ei chamau ar ôl ei thorllwyth. Wedi trywanu'r mochyn â'i gyllell, cylymodd Harri'r traed, a dygodd ef ar ei bastwn tua'r bwthyn yn fuddugoliaethus, gan addaw iddo'i hun wledd ddigymar drannoeth. Yn fuan wedi lladd y mochyn, daeth at nifer o fythynod bregus, ac wedi edrych yn ofalus o'i amgylch, nesaodd atynt braidd yn ofnus, ond cafodd hwynt yn wag, fel y cyntaf. Nid oedd bellach amheuaeth yn ei feddwl nad efe oedd unig breswylydd yr ynys.

Darganfyddiad arall a wnaeth cyn cyrraedd y bwthyn oedd natur yr hyn a durid gan y moch o'r ddaear. Cafodd allan mai rhyw wreiddiau oeddynt, a phenderfynodd mai yr yams y darllenasai amdanynt oeddynt, gwreiddiau ag iddynt flas tebyg i datws. Nid oedd yn hollol sicr, ond penderfynodd eu profi. Gwyddai nad allai dim oedd yn llesol i fochyn fod yn wenwyn i ddyn. Profodd hwynt yn amrwd, ac yr oedd yn hoffi'r blas, er yn ddiau y buasent yn well wedi eu coginio. Dychwelodd i'r bwthyn yn llon ei ysbryd yn y rhagolwg am ddigon o datws a chig tra byddai ar yr ynys. Yr oedd digon o fan-wydd hyd y ddaear i wneud tân, ac yr oedd wedi darganfod ffordd effeithiol i gynneu'r tân trwy ddal darn bychan o wydr yn ymyl papur a chael fflam oddiwrth wres yr haul. Yr oedd hefyd wedi darganfod ffynnon o ddwfr blasus o dan y graig yn ymyl y bwthyn. Fel rhwng popeth, teimlai fod ganddo achos i fod yn ddiolchgar ei bod mor dda arno ar yr ynys unig.

Wedi darganfod y bryn y gellid gweld o amgylch yr ynys oddiamo, cyrchai yno'n fynych i edrych a welai long yn rhywle yn y cyffiniau, ond siomid ef bob tro. Nid oedd dim tebyg i long i'w gweld yn unman ar y môr mawr, liydan. Ofnai fod yr ynys allan o lwybr cyffredin trafnidaeth, ac na chai byth ei waredu oddiyno. Unwaith neu ddwy, tybiodd iddo weld ryw bethau duon draw ar y môr yn agos i'r ynys fawr grybwyllwyd—yr oedd yn sicr fod yno rywbeth yn ymsymud ar y dwfr, a bamai mai badau (canoes)