Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ynys y Trysor.djvu/135

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y trigolion oeddynt. Beth pe baent yn glanio ar ei ynys ef, ac yn ei ddal a'i fwyta, fel y clywsai amdanynt yn gwneud gyda dynion gwyn? Byddai yr ofn hwn dan ei fron yn fynych, ac edrychai bob dydd tua'r ynys fawr, rhag ofn iddynt ddod yno heb yn wybod iddo.

Ymhen y deufis wedi iddo gyrraedd i'r ynys, a dechrau ymgartrefu yno, daeth yn ystorm debyg i'r hon a'i dygodd i'r ynys. Yr oedd wedi bod yn boeth annioddefol trwy'r bore, ac yn y prynhawn teimlai'r awyr yn drymaidd anarferol. Gostegodd yr awel, a daeth rhyw ddistawrwydd llethol a bygythiol trwy'r holl le. Distawodd yr adar hynny o gân oedd ganddynt; deuai sŵn arswydlawn o'r môr—crafai ei waelod, ys dywedir, yn anniddig. Duodd y ffurfafen, a chyn hir wele fellten yn rhwygo'r awyr a sŵn y daran yn dilyn yn ddioed. Ac yna disgynnodd y storm arno, nes ei atgofio'n fyw o'r storm fawr a'i gyrasai yno. Cododd yr awel, ond y tro hwn o'r gorllewin, a disgynnodd y glaw yn genlli. Deuai'r glaw yn llifeiriant trwy nen bregus ei fwthyn. Ond da iddo fod ganddo dŷ ar y fath ystorm, a da fod y tŷ hwnnw mewn lle cysgodol, neu buasai wedi ei falu'n ysgyrion. Clurai'r coed yn clecian o'i gwmpas gan y gorwynt. At y nos gwaethygodd; ofnai na ddaliai'r tŷ tan y bore gan rym y corwynt difaol. Yn sydyn, cofiodd am ei gwch oedd yng ngheg yr afon fach, a phenderfynodd fynd yno drwy'r ystorm i geisio'i ddiogelu. Nid oedd ganddo ond tua dau can llath i fynd yno, ond yr oedd y gwynt i'w wyneb, ac amhosibl braidd oedd symud. Yr oedd yn dywyllwch dudew; ni allai weld modfedd o'i flaen, a rhwng rhuad y môr yn torri ar y lan, a rhuad y gwynt yn y coed, a sŵn y coed yn cael eu torri i lawr o'i amgylch, yr oedd yn ddigon i ddychryn unrhyw un. Wedi cwympo unwaith neu ddwy ar draws coed a daflesid ar ei lwybr, rhoes i fyny mewn anobaith, a cheisiodd ymbalfalu'i ffordd yn ôl i'w fwthyn coed, ac nid hawdd oedd dod o hyd iddo yn y tywyllwch oedd fel y fagddu.