Parhaodd yr ystorm trwy'r nos a thrwy'r dydd dilynol, a rhaid fu arno aros yn y bwthyn. Erbyn y trydydd dydd yr oedd trosodd, ac O! olygfa gafodd Harri pan aeth allan. Yr oedd cannoedd o'r coed wedi cwympo a brigau'n gorchuddio'r ddaear ymhob cyfeiriad. Ei ofal cyntaf oedd y cwch. Aeth i lawr i edrych amdano, a beth oedd ei syndod, debygwch, o'i gael wedi ei gario gryn hanner can llath i'r tir! Rhaid mai ton a'i cododd yno. Diolchai erbyn hyn nad oedd wedi ceisio mynd ato trwy'r ystorm neu buasai'n sicr wedi boddi. Sut byth y cai'r cwch yn ôl i'r dwfr dros hanner can llath o dir? oedd y cwestiwn ddaeth i'w feddwl. Wel! gallai wneud heb y cwch am ysbaid, beth bynnag, ac yr oedd ganddo bethau eraill i feddwl yn eu cylch. Y prynhawn hwnnw, penderfynodd fynd draw i edrych sut olwg oedd ar yr hen long oedd wedi bod am ddeufis ar y creigiau. Ond, fel yr ofnai, nid oedd hanes amdani,—yr oedd yr ystorm fawr wedi gwneud diwedd arni. Chwiliodd hyd y glannau am ryw ddamau ohoni allsai fod wedi eu golchi i'r lan, ond nid oedd dim i'w weld. Rhaid felly ei bod wedi suddo i'r môr o'r tu allan i'r reef. Daeth ton o ddigalondid dros ei ysbryd wrth feddwl am yr hen long wedi mynd na welai mohoni byth mwy, ac wrth feddwl amdani daeth iddo atgofion melys a chwerw am yr amser a dreuliasai ar ei bwrdd. Ond ieuanc ydoedd, ac ni phery digalondid i flino'r ieuanc iach yn hir.
Wedi dychwel i'r bwthyn, penderfynodd y mynnai geisio symud ei gwch yn ôl i'r dwfr. Mae'n wir nad oedd wedi gwneud unrhyw ddefnydd ohono ar ôl gorffen cludo'r nwyddau o'r llong, ond ei brysurdeb gyda threfnu'r bwthyn ac archwilio'r ynys a gyfrifai am hynny, a meddyliai y buasai awr neu ddwy yn y cwch ambell ddiwmod yn ddifyr odiaeth, yn enwedig os gallai osod hwyl arno. A phe deuai llong i'r golwg ryw ddiwmod, fel y parhai i obeithio er ei siom aml, sut y gallai fynd allan ati ond yn ei gwch? Felly, rhaid oedd cael y cwch yn ôl i'r dwfr, ac aeth ati o ddifrif i geisio'i gael yn ôl. Hanner can llath oedd