o ffordd, a'r tir yn bur wastad, heb fod ond ychydig o rediad ynddo. Ceisiodd osod y rhan crwn o goes y rhwyf o dan y cwch, a gwthio'r cwch i rowlio drosto, modd y gwnaent gyda chychod Minymor ers llawer dydd i'w cael i'r dwfr, ond methiant fu'r cynllun hwn. Yr oedd y cwch yn rhy drwm iddo allu ei ysgwyd, chwaethach ei symud. Felly rhaid wrth gynllun arall. Yr un ffordd arall welai'n bosibl oedd trwy agor ffos ddofn o'r cwch at y môr, a nofio'r cwch i lawr. Golygai hyn waith caled a blin, ond nid un oedd Harri i gymryd ei ddigalonni gan anawsterau, a dechreuodd ar y gwaith gyda'i gaib a'i raw. Daliodd ati am wythnosau'n ddiwyd, nes llwyddo yn ei amcan. Yr oedd ganddo ffos ddofn o'r môr at y cwch, y gallai symud y cwch yn hawdd ar hyd-ddi i'r môr pan fynnai. Penderfynodd gadw'r cwch yn y ffos hyd nes y byddai arno ei angen, gan fod yno le mwy cysgodol na cheg yr afon fach pe digwyddai ystorm arall ysgubo'r ynys. Fel y crybwyllwyd eisoes, cadwai Harri gofnodion dyddiol o'i weithrediadau mewn llyfr,—gwell cynllun o gadw cyfrif o'r amser nag eiddo Robinson Crusoe o dorri nôd mewn pren am bob diwrnod. Gwyddai mai ar y 13eg o Fedi, 1893 y collasid yr "Arfonia," a chyn iddo orffen y ffos, yr oedd yn tynnu at ddiwedd Mawrth 1894, ac felly yr oedd wedi bod dros chwe mis ar yr ynys heb weld undyn byw, na gweld llestr o fath yn y byd yn hwylio heibio'r ynys.
Yr oedd yr hin erbyn diwedd Mawrth ryw gymaint yn haws ei oddef nag a fuasai hyd hynny, gan nad oedd pelydrau'r haul yn disgyn yn unionsyth arno, a theimlai awydd ymafael mewn rhyw orchwyl arall. Llunio mast i'r cwch i ledu hwyl arno'n sicr oedd y gorchwyl a hawliai sylw gyntaf, gan na wyddid pa mor fuan y byddai'r angen pe deuai llong i olwg yr ynys. Felly aeth ati o ddifrif. Yr oedd yn dda iddo wrth arfau'r saer i lunio mast, a gwnîo nifer o hen lieiniau yn ei gilydd wnaeth i gael hwyl. Ac, wrth gwrs, wedi cael mast a hwyl, yr oedd yn dra awyddus i roi praw arnynt. Nid oedd wedi archwilio'r ynys y trigai ynddi—yr