Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ynys y Trysor.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gychwyn am yr ysgol. "Mae hi'n ddigon buan: 'rwan mae'r trên naw yn y stesion," oedd ymadrodd a glywid yn fynych oddiar wefusau'r plant. Gan fod nifer pur fawr o blant o wahanol oedran yn y camwedd, nid gwiw oedd i'r athro eu curo am ddyfod yn hwyr, ac felly eu cadw i mewn amser chwarae gai plant Minymor yn fynych am eu trosedd. Nid oedd hynny'n rhyw gosb fawr yn eu golwg, gan nad oedd y teimladau gorau'n bodoli rhwng plant y ddau bentref—Cefngwyn a Minymor. Yr oedd hyn yn hen ddrwg cyn i Harri ddechrau mynd i'r ysgol, ac er na wyddai ef na'r plant yn ei amser ef beth fuasai'r achlysur i ddechrau'r elyniaeth, cadwai plant y naill bentref a'r llall y traddodiad i fyny'n ffyddlon. Anaml iawn yr anturiai plentyn o Finymor i'r Cefngwyn ar ei ben ei hun, ac nid gwiw, yn sicr, i un o'r Cefn ddangos ei wyneb ym Minymor. Ymysg y plant yn unig yr oedd yr elyniaeth—cyddynnai'r bobl mewn oed yn rhagorol â'i gilydd, a chydweithredent mewn amryw gyfeiriadau. Felly, nid oedd cael eu cadw i mewn yn gosb drom ar blant Minymor—gan mai cyfyng oedd y chwaraele i gynnwys dwy fintai elyniaethus. Gan fod plant Minymor yn bwyta'u cinio yn yr ysgol, caent hwy eu cyfle ar y chwaraele ganol dydd, cyn i blant y Cefn ddychwel oddiwrth eu cinio.

Mae rhywbeth mewn ambell blentyn (a dyn o ran hynny) fel pe'n mynnu ei wthio i'r amlwg, ac yr oedd y rhywbeth hwn yn Harri. Pan nad oedd ond crwt bychan ym mintai Minymor, gwrandewid arno a gofynnid ei fam gan blant hŷn nag ef, a phan oedd newydd droi y deg oed, efe oedd capten y plant, er, wrth gwrs, bod llawer hŷn nag ef yn perthyn i'r fintai. Daeth y swydd o arwain y plant iddo'n naturiol, heb iddo'i cheisio, gan fod y plant yn canfod yr arweinydd ynddo. Ac wedi ei ddewisiad yn arweinydd, ei air ef fyddai'n ddeddf, ac efe fyddai'r barnwr a'r cynghorwr, ac amddiffynydd y gwan yn y fintai. Pe beiddiai un o blant y Cefn gyffwrdd ei law yn un o blant Minymor, rhaid fyddai iddo wynebu Harri i roi cyfrif, ac nid oedd un o blant y Cefn a anturiai frwydr ag ef. Yn rhyfedd