Noson anesmwyth a gafodd Harri. Deffrodd o gwsg annifyr fwy nag unwaith gan dybied fod yr anwariaid yn y tŷ, a bore trannoeth yr oedd ar ei draed yn blygeiniol. Aeth i lawr i lan y môr, ac ar y tywod gwelodd ôl llawer o draed noethion. Rhaid felly mai'r ynyswyr fuasai yno, ond pam y cymerasent y darlun diwerth ymaith gyda hwynt? Ni allai feddwl am unrhyw esboniad ar hyn, er dyfalu mwy na mwy. Ond yn sicr, yr oedd pen arall yr ynys yn fwy diogel iddo, ac felly credai mai gorau po gyntaf iddo symud ei breswyl yn gyfangwbl yno. Yn wir, teimlai'n bur anesmwyth ei feddwl i aros yno'r diwrnod hwnnw rhag cael ymweliad. Ond y Sabboth ydoedd, ac yr oedd hyd yn hyn wedi ei gadw hyd y gallai, a mynnai wneud hynny'r tro hwn, onibai bod perygl uniongyrchol. Felly penderfynodd aros yno dros y Sabboth, ond edrychodd ugeiniau o weithiau yn ystod y dydd tua'r ynys draw, mewn ofn gweled badau'r anwariaid yn dod tuag ato. Ond cafodd heddwch; ni ddaeth dim, ac aeth i gysgu'r noswaith honno'n dawelach ei feddwl. A chan iddo fethu cysgu'r noson flaenorol, cysgodd y noson honno'n drwm ac yn hir; a phan ddeffrodd, canfu ei bod yn llawer o'r dydd. Brysiodd i gychwyn dros y tir am ei dŷ newydd, i gyrchu'r cwch i gludo popeth o'r hen fwthyn i ddiogelwch mwy y newydd.
Ni allai gychwyn heb daflu golwg tua'r ynys arall, ac er dychryn mawr iddo, beth welai o fewn llai na hanner milltir i'r lan, ond tri o fadau mawr yn llawn o ddynion, yn dod am geg yr afon fach. Cyfareddwyd ef gan yr olygfa, fel na allai dynnu ei lygaid oddiarnynt. Yna sylweddolodd yn llawn y perygl yr oedd ynddo. Yr oedd yn rhy hwyr i ddianc; byddent yn sicr o'i weld. Ond gallai ymguddio rhagddynt, a gwerthu ei fywyd mor ddrud ag oedd modd pe deuent o hyd iddo. Ciliodd oddiwrth y bwthyn gyda'i fwa a phastwn cryf yn ei law i ganol llwyn tew o goed, lle y gallai, rhwng y dail, weld y llwybr o'r lan i'r bwthyn heb fod ei hunan yn weledig. Teimlai y byddai'n ddiogel yno onibai iddynt wneud ymchwil manwl amdano. Curai ei galon tan ei fron nes yr ofnai o'r bron iddynt