ei chlywed, pan y glaniodd y cychod, ac y daeth y dynion ohonynt. Siaradent yn uchel â'i gilydd, er na allai, wrth gwrs, ddeall yr un gair ddywedent. Daeth oddeutu eu hanner i fyny gyda'r afon tua'r bwthyn, tra'r lleill yn aros gyda'r cychod. Pasient o fewn ychydig lathenni i'w ymguddfa, a gallai weld eu bod yn ddynion tal, cydnerth, tywyll iawn eu crwyn, ond sylwodd nad oedd golwg agos mor ffyrnig arnynt ag a ddisgwyliasai weld, er eu bod yn cario rhyw fath o arfau na welsai ef o'r blaen eu tebyg.
Edrychent i bob cyfeiriad ac agoshaent at y bwthyn mewn distawrwydd. Ond yr hyn a dynnodd sylw neilltuol Harri oedd bod dyn gwyn yn eu plith, neu o'r hyn lleiaf, un llawer gwynnach na'r gweddill. Dyn tal, a'i wallt yn dechrau britho, a barf laes ganddo. Nid oedd gan y lleill wisg ond rhwymyn ynghylch eu lwynau, ond meddai hwn ryw fath ar wisg oedd yn efelychiad o wisg Brydeinig. Ai tybed mai carcharor ydoedd, a'u bod ar fedr ei gosbi mewn rhyw ffordd farbaraidd? Na, ni allai hynny fod, oblegid cerddai'n ŵr rhydd, a gwelodd Harri'n fuan ei fod yn wrthrych parch y dynion duon, ac yn debycach i bennaeth arnynt na dim arall. Yn ei law dygai rywbeth a ymddangosai i Harri fel y darlun a gollasai o'r bwthyn, ond ni allai ddweud i sicrwydd.
Aeth y parti i mewn i'r bwthyn, a buont yno am gryn amser. Clywai Harri sŵn siarad yn dod oddiyno, a thybiai mai ei absenoldeb ef oedd yn eu poeni. Pan o'r diwedd y daethant allan, gwelai Harri'r dynion duon yn mynd ymlaen i gyfeiriad canol yr ynys, ond A beth safodd y dyn gwyn yn ymyl drws y bwthyn. a glywai Harri yn y munud, ond y dyn gwyn yn mwmian canu'r hen don a glywsai ganwaith yng Nghapel Minymor" Bryn Calfaria."
A mwy na hynny. Bron na thybiai mai ar y geiriau Cymraeg y canai hi. Bu agos iddo ymuno o'r d'ryslwyn yn y ddwy linell olaf,
"Pen Calfaria,
Nac aed hwnnw byth o'm cof "
ond cafodd ddigon o hunan-feddiant i ymatal.