Pwy allai'r dyn gwyn fod? oedd y cwestiwn ddaeth i'w feddwl. Ai tybed mai Cymro ydoedd? Gwrthodai'r syniad fel un amhosibl. Rhaid mai ei ddychymyg byw ef oedd wedi cydio'r dôn a ganai'r dyn wrth y geiriau a glywsai ef ar y dôn gartref. Ac eto, pwy ond Cymro allsai ganu'r hen dôn? os nad oedd gan yr ynyswyr ryw fesur tebyg iddi. Tra yr ymresymai Harri'r broblem newydd hon, gwelodd y dyn gwyn yn mynd yn arafaidd ar ôl ei gymdeithion, ac wedi ysbaid pur faith, daeth yr holl gwmni heibio iddo'n ôl at y badau, a thybiai Harri glywed sŵn siom yn nhôn y dyn gwyn pan yn mynd heibio iddo. Yn fuan wedyn, gwelodd y badau yn cychwyn yn ôl, ac wedi iddynt fynd ddigon pell, daeth allan o'i guddfan gan dynnu anadliad dwfn o ollyngdod fod yr ymwelwyr wedi ymadael.
Wedi gweld yr ynyswyr, ni theimlai arno gymaint o'u hofn, yn enwedig wedi gweld y dyn gwyn yn eu cymdeithas. Rhaid eu bod yn dra gwahanol i'r ynyswyr y darllenasai ef amdanynt. Yr un pryd, penderfynodd na ddeuai mor aml i'r hen fwthyn i aros, a pharatodd i symud ychwaneg o'i bethau oddiyno i'w dŷ newydd, gan adael yn yr hen yn unig y pethau trymaf a mwyaf anhylaw i'w symud. Ar ei ffordd yn ôl trwy'r ynys y tro hwn, daeth ar draws cenfaint o foch yn pori. Ffoisant ar ei ymddangosiad, ac ni wnaeth ymgais i ladd yr un, gan nad oedd agos mor hoff o gig ag y bu. Ond gwelodd fod un porchell bychan yn methu dilyn y lliaws. Wedi mynd ato a'i godi, gwelodd ei fod wedi torri'i goes. Aeth ag ef adref yn ei freichiau, a'r mochyn yn gwichian yn enbyd gan boen ac ofn, ac wedi cyrraedd y tŷ, er na wyddai ddim am waith mil-feddyg, rhwymodd goes y mochyn gystal ag y gallai, a dododd ef i orwedd ar swp o ddail crin yng nghongl yr ystafell. Yr oedd yn amlwg yn fuan fod y driniaeth wedi lliniaru'r boen, oblegid cysgodd y mochyn yn dawel. Gweinyddodd Harri arno'n ofalus am rai dyddiau, a daeth y mochyn i fod yn bur gartrefol yn y bwthyn, ac yn gyfeillgar iawn â Harri, fel pe bai'n sylweddoli'r drugaredd a wnaethai ag ef. Dilynai