Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ynys y Trysor.djvu/152

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymhen rhai oriau, teimlai lawer yn well—yn wir, yr oedd y boen wedi mynd. Edrychai'n syn ar y dynion dieithr, ond nid oedd eu hofn arno bellach. Daeth y dyn gwyn a rhywbeth iddo i'w yfed, ac yfodd yntau heb ofni dim brad. Amneidiodd y dyn gwyn ar i'r ddau arall fynd allan, ac wedi iddynt fynd, daeth y dyn gwyn ato, a chydag edrychiad caredig, meddai wrtho,

"Rydach chi'n well, on'd ydach chi?"

Trodd y bachgen ddau lygad syn arno, ac meddai, "Beth! Ai Cymro ydach chi?

"Ie, siwr, Cymro glân gloyw fel chitha. Ond rhaid i chi beidio siarad llawer nes byddwch chi'n well."

"Ond 'rydw i'n teimlo iawn. Mae'r ffisig roisoch chi i mi wedi fy ngwella i."

"Rhaid i chi ddod drosodd hefo ni i'r ynys arall fory. Does yma ddim lle iach efo'r gors 'ma. Ond fuoch chi ddim yma'n hir?"

"'Rydw i yma ers yn agos i dair blynedd."

"Tair blynedd! Gymaint a hynny. Mae'n syn na b'asan ni wedi'ch gweld chi, a ninna mor agos, ac mae'n fwy o syndod na fasa chi wedi marw yma.

Mi fu rhai o'r bobol acw'n byw yma flynyddoedd yn ôl, ond o achos y gors fe fu'n rhaid iddynt fynd oddiyma." Bu'r dyn gwyn a'r brodorion yn gweini'n garedig ar Harri nes yr oedd yn ddigon cryf i fynd gyda hwy i'r ynys arall. Nid oedd yn fodlon i fynd gyda hwy nes iddynt addo y caffai ddod yn ôl i'w ynys ei hun pryd y mynnai.

Pan oedd ar fedr cychwyn yn y cwch gyda'i ffrynd newydd, cofiodd am Dic, y mochyn, a mynnai gael mynd yn ôl i edrych amdano. Waeth i chi heb," ebe'r dyn gwyn, mi fu o gwmpas y bwthyn am dipyn pan oeddech chi'n sâl, ond mae o wedi troi'n fochyn gwyllt yn ei ôl, mae'n sicr, bellach."

Ac felly, mynd fu raid heb Dic.