draed, a chan dynnu o gist, y darlun o'i rieni a gollasai Harri o'r bwthyn, a'i ddal tuagat Harri, meddai,
"Ga i ofyn i chi gyntaf darluniau o bwy ydi rhain?"
"Fy nhad a mam ydynt," ebe Harri mewn llais hiraethlawn, gan feddwl, wrth weld y darlun, am ei fam yn ei chartref tawel dros y tonnau.
Bron na ollyngodd y dyn y darlun pan glywodd hyn. Safodd yn syth i fyny, gan lygad rythu ar Harri, nes y tybiodd (Harri) y bachgen ei fod yn dechrau colli i synwyrau.
"Machgen annwyl i," meddai'r dyn, gan roi naid at Harri, a thaflu ei freichiau am ei wddf a'i wasgu i'w fynwes. "Wyt ti ddim yn nabod dy dad? Dy dad ydw i. Dy dad."
Yna daliodd ef o hyd braich oddiwrtho, fel pe i edrych yn fanylach arno, ac wedyn gwasgodd ef drachefn i'w fynwes. Methai gan Harri sylweddoli'r hyn a glywai. Ei dad yn y fan hyn! Ei dad yn fyw, a hwythau wedi galaru mor hir amdano! Ni allai ddweud gair gan ei syndod,—yr oedd ei dafod fel pe wedi mynd yn ddiymadferth yn ei enau.
"Dywed i mi," ebe'r tad drachefn, wrth weld y bachgen yn fud, dwyt ti ddim yn llawen o weld dy dad? Ond, o ran hynny, 'dwyt ti ddim yn cofio dy dad. 'Doeddet ti ddim ond pump oed pan euthum oddicartref am y tro diweddaf. Ond dywed i mi, sut mae dy fam? Ydi hi'n fyw?
"Ydi," ebe Harri, "neu 'roedd hi pan gychwynais i oddicartref, ond mae hynny ers dros dair blynedd yn ôl. Mae arna i ofn ei bod hi wedi torri'i chalon wedi'n colli ni'n dau." Tra'n siarad, syllai Harri o hyd ar ei dad ac ar y darlun ohono a ddaliai yn ei law, fel pe'n methu credu mai ei dad ydoedd. Yr oedd cryn wahaniaeth rhwng y dyn a safai o'i flaen, ag ôl bywyd mewn hinsawdd boeth ar ei wynepryd, a'r morwr ieuanc, hawddgar, ddangosid yn y darlun. Ond wrth graffu, sylwodd Harri fod tebygrwydd hefyd rhynddynt —yr un llygad, yr un wyneb, a sylweddolai mai ei dad, y credid ei fod wedi boddi ers blynyddoedd, a safai