o'i flaen. Teimlai hefyd rywbeth tumewn iddo'i hun yn tystio mai ei dad ydoedd. Tro'r bachgen oedd hi'n awr i ddangos ei lawenydd.
"O! nhad annwyl," meddai, gan daflu ei hun i'w freichiau," a dyma fi wedi cael hyd i chwi. Ond biti na fasa mam yma hefo ni, neu na fedrem ni fynd adref ati hi," a thorrodd i wylo'n hidl gan lawenydd a galar yn gymysg.
Wylai'r tad hefyd dan yr un teimladau, ond daeth cnoc ar y drws i dorri ar eu neilltuedd. Yr oedd ar rywun yn y pentref eisiau gweld "Pedru " fel y galwent Peter Jones, a rhaid oedd iddo fynd allan. "Aros di yma," ebe wrth Harri, dan sychu ymaith arwyddion yr wylo oddiar ei wyneb, "fydda i ddim yn hir. Mae gennym ni lawer i'w ddweud wrth ein gilydd." Ac ymaith ag ef, gan deimlo'i hun ddeng mlynedd yn iau ar ôl ei ddarganfyddiad.
Tra y bu allan, myfyriodd Harri'n ddwys ar ddigwyddiadau rhyfedd y dydd, a gwelai fod Rhagluniaeth yn gweithio mewn ffordd ddirgelaidd iawn. Ac wrth feddwl fel hyn, daeth iddo ryw ymdeimlad bod ei fam yn fyw, ac y caffai ei dad ac yntau fyw i ddychwel ati.
Pan ddaeth Peter Jones yn ôl, dywedodd wrth Harri, "Mae'r trigolion bron wedi dyrysu gan lawenydd wedi clywed dy fod yn fab i mi. Welaist ti erioed y fath firi sydd yn y pentref. Mi ddon yma wedi iddi nosi i ganu ac i ddawnsio o gwmpas y tŷ. Mi gei glywed canu pur wahanol i ganu Cymru.
Ac wedi iddi dywyllu, safodd y ddau Gymro, y tad a'r mab, yn nrws y tŷ, a chafodd Harri weld golygfa fythgofiadwy. Daeth y brodorion gyda fflamdorchau tuag yno, ac am ysbaid awr buont yn canu ac yn dawnsio ar y lawnt o flaen y tŷ i ddangos eu llawenydd. Ofer ceisio disgrifio'r ddawns na'r gân—rhaid eu gweld a'u clywed i ffurfio syniad amdanynt,—ond credai Harri eu bod wedi blino erbyn iddynt orffen eu perfformiadau, gan faint yr ynni roisant yn eu gwaith. Neidient i fyny, ymrolient hyd lawr, a phlygent eu cyrff i bob ffurf dychmygol fel pe na bai ynddynt