esgyrn o gwbl. Ar y diwedd, siaradodd Peter Jones ychydig eiriau wrthynt; ac ar ôl rhoi tair bonllef fyddarol, a churo tympanau, aethant yn ôl i'w bythynnod, ac aeth Peter Jones a Harri i'r tŷ.
A'r noson honno, ymgomio am Finymor fu cyd-rhyngddynt nes i gwsg eu gorchfygu. Rhaid oedd Harri ddweud wrth ei dad hanes popeth ddigwyddasaf yn y pentref a'r ardal ers pan ymadawsai. Holodd ef am yr hen bobl a adwaenai ef yno, ac atebodd Harri bopeth iddo hyd y gallai.
"Ac yfory, mae hi'n rhy hwyr heno bellach," meddai Peter Jones, "rhaid i ti ddweud wrthyf sut y daethost i'r ynys, ac mae'n sicr dy fod dithau'n awyddus iawn wybod sut y deuthum innau yma, a hanes fy mywyd yma ymhlith y brodorion."
Yr oedd hynny'n ddigon gwir. Gwell lawer gan Harri fuasai clywed stori ei dad nag adrodd helyntion Minymor, ond dyna oedd dymuniad ei dad, ac ildiodd y bachgen i'w ddymuniad.
Drannoeth, wedi i Harri roi cyfrif manwl o'i fordaith anffodus yn yr Arfonia" (ond heb sôn am William Jones a Thwm Dafis, nac am ynys y trysor), adroddodd Peter Jones ei hanes ei hun rywbeth yn debyg i hyn: Yr wyf wedi bod yma ers tua phymtheng mlynedd, ac mae'n rhyfedd gennyf siarad Cymraeg gyda Chymro, a hwnnw'n fab i mi, wedi bod cyhyd heb siarad na chlywed gair o'r hen iaith.
Mi wyddost mai ar fwrdd y 'Maritana' yr hwyliais o Lerpwl yn brif swyddog. Cawsom fordaith eithaf hwylus a hapus hyd nes dod trwodd i'r Môr Tawelog. Yno aeth yn ddrwg rhwng y capten a rhai o'r dynion. Ni fyddai o ddiddordeb yn y byd i ti wybod yr achos o ddechreuad yr helynt; ond yr oedd peth bai o bosibl ar y Capten, ac yr oedd dau neu dri o ddynion anodd eu trin ymhlith y criw. Aeth y peth o ddrwg i waeth, a chyn pen llawer o ddyddiau yr oedd y dynion mewn gwrthryfel agored. Wrth gwrs, yr oedd raid i mi fel mate gymryd ochr y Capten. Dyn penderfynol ac ystyfnig ydoedd, ac yn hytrach na cheisio cymodi a'r dynion, mynnai eu gorchfygu. Bygythiodd eu