dodi i gyd yng ngharchar wedi cyrraedd Awstralia. 'Doedd hynny'n ddim ond temtio'r dynion i ymddwyn fel na chyrhaeddai byth i Awstralia. Y diwedd fu i'r gwrthryfelwyr gymryd meddiant o'r llong, a phan ddeuwyd yn agos i ynys, dodwyd y Capten a minnau a'r is-swyddog ar yr ynys. Cefais gynnig ganddynt i aros ar y llong, ond ymuno â hwynt, ond yn naturiol gwrthodais. Eu bwriad oedd troi'n fôr-ladron. Gadawsant ein dillad i ni yn yr ynys, a chist fechan feddygol (medicine chest)—yn hyn o beth buont yn bur drugarog wrthym.
"Gwyddost trwy brofiad beth yw bywyd ar ynys unig, fel na raid i mi ddisgrifio i ti sut y bu arnom yno. Ni bu'r Capten fyw ond rhyw ddeufis. Un ai fel effaith poeni oherwydd colli ei long, neu trwy gael rhyw afiechyd dieithr, bu farw yno, a chladdwyd ef gennyf fi a'm cyd-swyddog. Wedi marw'r Capten, ni allem ddygymod a'r syniad o aros ar yr ynys. Nid oedd. ynys arall yn y golwg, ond credem fod llawer heb fod ymhell oddiyno. Felly, gan ddisgwyl dod ar draws llong, neu gael hyd i ynys arall fwy dymunol, dodasom bopeth oedd gennym, ynghŷd â bwyd a dwfr, yn y cwch, a hwyliasom ymaith i'r cefnfor.
Am ddyddiau, buom yn hwylio'n ddiamcan heb weld na llong nac ynys, a darfyddodd y dwfr. Un bore, yn fuan wedyn, pan ddeffrois o gwsg (cysgem bob yn ail er cadw gwyliadwriaeth) cefais fy mod fy hunan ar y cwch. Beth a ddigwyddodd i'm cyfaill—pa un ai ynteu syrthio i'r môr yn ddamweiniol, ynteu bwrw ei hun drosodd mewn anobaith neu amhwylledd a wnaeth, ni wn i, ond mae'n sicr mai i'r môr yr aethai rywdro pan yr oeddwn i yn cysgu.
"Cofiaf i mi ddioddef arteithiau oddiwrth syched, ond euthum yn anymwybodol, a'r peth nesaf wyf yn gofio yw dod ataf fy hun ar yr ynys hon, a thwr o'r brodorion yn fy nghylchynnu. Deallais wedyn sut y bu. Ymddengys i'r cwch gael ei ddwyn yma gan y gwynt a'r tonnau. Un bore, gwelwyd y cwch gan rai o'r dynion, yn nofio yn bur agos i'r lan, ac aed ato. Mawr oedd eu syndod i gael dyn gwyn—y cyntaf a