welsent erioed yn cysgu'n dawel ynddo. Deuthpwyd â mi i'r lan lle y deuthum ataf fy hun yn raddol. Cofia mai gan bobl yr ynys y cefais yr hanes wedyn, a hynny ymhen blynyddoedd wedi'r digwyddiad—wedi i mi ddysgu eu hiaith.
Ond dyma'r peth rhyfedd yn yr hanes. Yr oeddwn i wedi colli fy nghof yn hollol. Nid oeddwn yn cofio pwy oeddwn, nac o ba le y daethwn nac hyd yn oed f'enw. Yr oedd y gorffennol fel pe wedi ei ddileu'n llwyr oddiar lechau fy nghof.
"Bu'r brodorion yn garedig iawn wrthyf. Ymddengys oddiwrth yr hyn a glywais wedyn, i mi ddod atynt ar adeg nodedig yn eu hanes. Yr oedd eu hen bennaeth newydd farw, ac ymrafael rhwng dau am gael cymryd ei le fel pennaeth. Pan gafwyd o hyd i mi yn y cwch, dywedodd rhyw henadur y gwrandewid ar ei lais, mai'r duwiau oedd wedi'm hanfon yno i lywodraethu arnynt. Nid wyf yn gwybod beth feddylient oeddwn, ond edrychent arnaf fel pe bawn ryw fod uwchraddol, os nad goruwch-naturiol. Diau fod fy nghyflwr gresynus yn ennyn eu tosturi tuag ataf, ond yn ddios, y syniad mai'r duwiau a'm hanfonodd yma i fod yn bennaeth ac i atal tywallt gwaed a'm hachubodd. Feallai mai fy mwyta a gawswn ganddynt onibai hynny, oblegid arferent fwyta cyrff eu gelynion y dyddiau hynny. Yn raddol adenillais fy nerth corfforol, ond ni ddaeth y cof yn ôl. Bum am gryn amser heb allu deall dim o'u hiaith, a thrwy arwyddion â'n dwylaw ar ein gilydd y deallem ein gilydd. Ond bob yn dipyn, deuthum i bigo i fyny rai o'u geiriau, fel ag i allu ymddiddan â hwynt. Gwelais eu bod yn edrych arnaf fel eu pennaeth, a bod fy ngair yn ddeddf yn eu golwg. Pan ddeuthum i yma, paganiaid oedd y bobl, a chanddynt lawer o arferion gwrthun ac aflan. Byddent yn mynd i ryfel yn bur aml â phobl sy'n trigo mewn ynys sy ychydig i'r gogledd oddiyma, ond maent bellach ers llawer blwyddyn yn gyfeillgar. Wedi i mi ddysgu'r iaith yn weddol, dechreuais sôn wrthynt am Iesu Grist, ond glynent wrth eu heilunod. Nid oedd y grefydd newydd yn tycio dim, er bod eu parch a'u