Gwyddent nodweddion a gwerth y gwahanol goed a phlanhigion dyfai ar yr ynys, a dysgodd y bachgen lawer oddiwrthynt. Diddorol iawn iddo oedd eu gwylio'n coginio eu bwydydd. Ei dad, fel y deallai, a'u dysgodd i'w goginio—ei fwyta'n amrwd y byddent gynt. Eu hoff gigfwyd oedd cig y moch redai'n wyllt yn y goedwig, a rhostient ef ar dân coed. Gwnaent dwll yn y ddaear yn ymyl y tân, i grasu'r yams a'r taro, —y gwreiddiau maethlon gaent yn y ddaear, a blasus odiaeth oeddynt wedi eu paratoi felly. Y cocoanut oedd y goeden y gwnaent fwyaf o ddefnydd ohoni. Rhoddai hi iddynt fwyd a diod, heblaw y defnydd gwisg. Tyfai'r coed hyn ymhob man hyd yr ynys i uchter mawr—yn brennau syth, diganghennau, gyda thusw o ddail a ffrwythau ar eu blaen. Yn wir, tyfai'r coed hyn mewn rhai mannau ar y reef cwrel—lle bynnag yr oedd ychydig ddaear wedi sefyll ar ben y graig, gwelid y coed cocoanut yn tyfu, a'r dwfr yn golchi eu rhan isaf. Os am brawf nad oedd ar yr ynys dymhorau fel yn ein gwlad ni, nid oedd ond eisiau edrych ar goeden y cocoanut, oblegid gwelid ffrwythau o wahanol liwiau—gwyrdd a melyn a brown ar yr un goeden—praw ei bod yn wanwyn, haf, a hydref arni ar unwaith. Brown yw lliw y ffrwyth aeddfed, fel y gŵyr pob bachgen fu mewn ffair. Gwyddai Harri am ddiod flasus y ffrwyth anaeddfed—cofiwch iddo ddarganfod hynny drosto ei hun pan ar yr ynys arall. Gwyddai'r brodorion hynny hefyd, a dringent y coed yn fynych i gael y ffrwyth gwyrdd. (Nid oedd angen dringo am y ffrwyth brown, oblegid fe ddisgyn, fel afal aeddfed, i'r llawr.) A medr y brodorion i ddringo'r coed hyn barodd fwyaf o syndod iddo o ddim a welodd ar yr ynys. Cyfrifai ei hun yn gryn gampwr yn y gelfyddyd o ddringo coed cyn gweld y brodorion wrthi—efe, fel y cofiwch, oedd y pen campwr yn y cae eithin ym Minymor—ond wedi eu gweld yn dringo, teimlai nad oedd i'w gymharu â hwynt. Bron na ellid dweud y cerddent i fyny'r coed fel y gwelir gwybed ar fur neu ffenestr. Cymerent wib ar hyd y llawr at y goeden, ac yna, gan afael amdani â'u dwylo, a dal
Tudalen:Ynys y Trysor.djvu/163
Gwedd