Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ynys y Trysor.djvu/164

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu cyrff yn ôl, fel ag i gael gwadnau eu traed yn erbyn y goeden, aent i fyny o gam i gam mewn byr amser gan symud traed a dwylo bob yn ail. Wrth weld Harri'n cymryd diddordeb yn eu campau, gwnaent orchestion anhygoel o'r bron yn y coed i'w foddhau.

A'r un modd drachefn yn y dwfr, yr oeddynt yn gallu nofio fel pysgod a gwneud pob math o gampau yn nyfroedd y lagoon. Suddent i'r gwaelod, a dygent gregyn prydferth, a chwrel cywrain ei ffurf i fyny oddiyno. Sylwodd Harri'n arbennig ar y cregyn, a dywedodd wrth ei dad y credai fod perlau ynddynt. Nid oedd ei dad wedi meddwl am y posibilrwydd o'r blaen, ond wedi hynny aed ati i gasglu cregyn, a dodwyd hwy i sychu yn yr haul, nes ymagor ohonynt eu hunain, ac yna gwelwyd fod Harri'n gywir yn ei ddamcaniaeth. Darllenasai ryw dro fod yn well gadael i'r cregyn sychu yng ngwres yr haul, ac agor ohonynt eu hunain, nag i neb eu hagor, gan fod hynny'n niweidio'r perl oddimewn. Ac ymhob cragen caed perl gwerthfawr. Wedi darganfod gwerth y cregyn, casglwyd nifer mawr ohonynt, a'r brodorion yn cynorthwyo'n ewyllysgar. Er nad oeddynt o werth yn y byd i neb ar yr ynys, gellid cael pris da amdanynt, pe deuai cyfle i fynd a hwy i wlad wareiddiedig.

Un diwrnod, pan yr oedd nifer o'r dynion yn y dwfr yn casglu cregyn, a Harri mewn cwch yn eu gwylio ac yn derbyn y cregyn ganddynt, yn sydyn clywodd floedd "Mao oddiar y lan. Gwyddai mai'r gair brodorol am siarc ydoedd "Mao." Neidiodd ar ei draed yn y cwch, a gwelai ryw ugain llath oddiwrtho don fechan ar wyneb y dwfr, a llun rhywbeth yn ymsymud yn y dwfr odditani, ac yn dod yn brysur tuag ato. Gwelsai hyn unwaith o'r blaen yn y bau yn yr ynys arall pan yn ymdrochi. Pan glywyd y waedd, brysiodd y nofwyr am y lan, ond gwelai Harri fod un oedd mewn perygl yn cyrchu am y cwch a'r siarc ar ei ôl. Pan oedd y dyn dychrynedig yn yr act o afael yn ochr y cwch, gwelai Harri'r siarc yn troi drosodd i gymryd gafael yn ei goes (rhaid i'r siarc droi felly i gydio â'i safn mewn rhywbeth, gan mai