Yr oedd y llong erbyn hyn wedi dod yn agos iawn, a gwelodd Harri rywun ar y bwrdd yn chwifio cadach. Yr oeddynt wedi ei weld. O! diolch!
Cyn pen ychydig funudau yr oedd y llong wedi dod gyferbyn ag ef tuallan i'r reef, y peiriannau wedi eu hatal fel y tystiai'r mwg du, trwchus a ddeuai o'r simdde, a chwch yn cael ei ollwng i'r dwfr. Gwelai'r cwch yn gadael ochr y llong ac yn cyfeirio am y bau yn ei ymyl. Rhedodd i ymguddio i'r ogof o'r tu ôl i'w fwthyn, heb wybod pam y gwnai hynny. Cyn hir, clywai siarad ar y lan. Clustfeiniodd a deallodd mai Saesneg oedd yr iaith. Gwrandawodd drachefn. Clywai lais clir yn gorchymyn yn Saesneg i rywrai fyned un ffordd i chwilio, ac yna meddai'r un llais yn Gymraeg. "Tyrd di'r ffordd hyn hefo mi, Jac." Daeth ton o lawenydd tros ei ysbryd pan glywodd y Gymraeg, ond yr hyn a dynnodd ei sylw'n arbennig oedd y llais. Onid oedd wedi clywed llais tebyg o'r blaen? Teimlai'n sicr ei fod yn gynefin âg ef, a cheisiodd ddyfalu llais pwy ydoedd. Ac yn sydyn cofiodd. Pwy ond Dafydd Glandon? Ie'n sicr, Dafydd ydoedd.
Ond Dafydd yn y fan hyn—ramhosibl,—rhaid mai ei ddychymyg oedd yn chwarae tric ag ef. Na, dyna'r llais drachefn o'r coed ar y dde iddo. Dafydd ydoedd,—'doedd dim amheuaeth pellach ar y pen. Chwardded y neb fynn at freuddwyd; mae peth gwir ynddo weithiau.
Heb aros i ystyried yr olwg farbaraidd oedd arno, rhedodd i'r cyfeiriad y deuai'r llais ohono, gan waeddi, "Dafydd! Dafydd Glandon." Safodd Dafydd a'i gydymaith (canys yr oedd dyfaliad Harri'n gywir, Dafydd Glandon, a neb amgen, oedd yno yn y cnawd), wrth glywed y llef ddieithr, a gwelsant ryw greadur, rhyfedd yr olwg arno yn rhuthro tuag atynt o'r coed. Ond pan welodd Harri'r ddau ddyn ieuanc, yng ngwisg swyddogion morwrol—rglas gyda botymau melyn— swiliodd a safodd yn fud, gan dybied yn sicr ei fod wedi camgymeryd. Parhaodd i syllu arnynt a hwythau arno yntau, ac yna, heb wybod pam, aeth ymlaen tuag atynt yn araf. Safai'r ddau arall yn eu hunfan,