Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ynys y Trysor.djvu/175

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Jones, rhag ofn i sydynrwydd y fath newydd effeithio'n ormodol arni. Gwell fyddai anfon at rywun arall, ac i hwnnw dorri'r newydd iddi yn araf. Cytunodd y ddau mai anfon at William Gruffydd, yr hen flaenor fyddai'n ymdrafferthu gyda hwynt yn y Band of Hope, fyddai orau, gan y gellid dibynnu arno ef i dorri'r newydd i Gwen Jones yn y ffordd ddoethaf, ac felly ato ef yr anfonwyd,—Dafydd yn ysgrifennu llythyr i ddweud am y darganfyddiad, a Harri'n amgau nodyn ynddo i gadarnhau'r ffaith.

Wedi gorffen eu busnes yn Sydney, y porthladd pwysig yn Awstralia, ac i Dafydd hysbysu perchenogion y llong, trwy lythyr, sut y bwriadai gael llwyth i ddychwelyd, hwyliwyd yn ôl am yr ynysoedd, ac yr oeddynt yno ymhen deufis o'r amser y cychwynasent. Gwelwyd fod Peter Jones a'r brodorion wedi bod wrthi'n ddiwyd yn ystod eu habsenoldeb yn casglu ynghyd lwyth gwerthfawr.

Rhoed iddynt dderbyniad cynnes yn ôl, a mawr oedd y diddordeb gymrid yn y nwyddau a ddygasai Harri iddynt. Cafodd dipyn o drafferth i egluro iddynt amcan y gwahanol offer a'r dull o'u trin, a bu amryw berfformiadau digrifol ynglŷn â hwynt ar y cychwyn. Trysorid y llyfrau'n arbennig gan yr adran fwyaf meddylgar yn eu phth, a gellid gweld y rhai hyn mewn conglau neilltuedig yn astudio'u dalennau. Yr oeddynt mor falch ohonynt a phlentyn o degan newydd, a'r rhai oedd wedi dysgu'r gelfyddyd o ddarllen, yn darllen y geiriau ar uchaf eu llais er mawr foddhad iddynt hwy eu hunain, beth bynnag am yr effaith ar eraill a'u clywent. A chaed canu i'w gofio'r Saboth dilynol, a'r olwg ar rai o'r cantorion fel pe mai'r llyfryn oedd y trysor pennaf yn y byd yn eu golwg.

Ond yr oedd cysgod tristwch dros yr holl llawenydd. Yr oeddynt wedi deall bod Pedru a Pedratu, fel y galwent Harri, yn mynd i'w gadael, ac nid oedd modd eu cysuro. Er iddynt weithio i gludo'r gwahanol bethau—y rubber a'r cnau a'r siwgr—o'r coed i'r llong, yr oedd eu calonnau'n drist wrth feddwl y byddai raid iddynt bellach fyw heb y ddau ddyn gwyn. Ac