Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ynys y Trysor.djvu/177

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yma'n ôl cyn pen y flwyddyn. Ceisiaf gael llyfrau yn eich iaith, ac athro i ddod yma i ddysgu'ch plant. Gwnewch eich gorau hyd hynny gyda'r llyfrau gawsoch." Yr oedd araith Harri dipyn yn fwy calonogol ei thôn nag eiddo'i dad, a chiliodd y prudd-der i fesur o'u hwynebau wrth glywed ei addewidion. Yr oedd yr addewid i brynu agerlong yn enwedig yn eu boddhau, ac nid ymddangosai blwyddyn yn amser maith i aros amdani, dan gyfaredd yr araith.

Ond bore drannoeth, pan godid yr angorion i gychwyn, prudd-der oedd wedi eu meddiannu un ac oll, a wylent yn hidl ar y lan. Safai Peter Jones a Harri ar fwrdd y llong gyda Dafydd yn edrych yn ôl ar yr ynys fel y pellhai'r agerlong yn gyflym oddiwrthi. Chwifient eu cadachau cyhyd ag y gallent weled y dyrfa ar y lan, a phan o'r diwedd, yr oedd yr ynys yn suddo o'r golwg dros y gorwel, yr oedd dagrau'n llifo i lawr gruddiau Peter Jones.

"Hogia," meddai, "nid ydyw yn debyg y caf ddod yn ôl yma byth eto, ond fe hoffwn i chwi'ch dau, os gellwch, gadw'ch addewidion i'r bobl. Pobl garedig a charuaidd dros ben ydynt, ac ni wyddoch faint o les eto ellwch chwi wneud iddynt. Ond wyddoch chwi beth sydd ama i ofn?"

"Na wyddom ni," ebe'r ddau ddyn ieuanc.

"Ofn i fasnach a'r dyn gwyn eu damnio. Mi wn na wnewch chi'ch dau ddim niwed iddynt, ond ofn sydd arna i i ddynion gwynion eraill ddechrau masnachu â'r ynys, a dwyn y ddiod felltigedig yno i ddamnio'r bobl, gyrff ac eneidiau. Y dyn gwyn sydd yn mynd a chrefydd Iesu Grist, y fendith fwyaf, i bobl yr ynysoedd hyn. Onid yw'n drueni meddwl mai'r dyn gwyn sydd hefyd yn mynd a'r ddiod feddwol, melltith fwyaf y ddynoliaeth iddynt? Y nefoedd a'u gwaredo rhag y dyn gwyn didduw."

"Amen," meddai'r ddau ŵr ieuanc o'u calonnau.