XVI. YNYS RAHITI
DYMA hwy bellach a'u hwynebau tua Chymru a chartref. I'r ddau alltud oedd wedi bod flynyddoedd o'u gwlad, teg yn sicr oedd edrych tuag adre. Ond nid oedd Harri'n fodlon i gefnu ar ynysoedd Môr y De heb geisio cael gwybod mwy am ddirgelwch y trysor cuddiedig ar Ynys Rahiti. Beth oedd wedi digwydd i Twm Dafis a'i griw, tybed?
Ychydig feddyliasai am y trysor tra'n byw ar yr ynys, ac ni soniasai wrth ei dad am y mater. Ond yn awr, wedi cael ei hun ar fwrdd llong, ac yn mynd i gyfeiriad Rahiti, daeth y peth yn fyw i'w feddwl, a phenderfynodd ddweud yr holl hanes wrth ei dad a Dafydd,—yntau hefyd, fel y cofir, hyd yn hyn heb glywed gair am y dirgelwch. A'r cyfle cyntaf gafodd ar y ddau gyda'i gilydd, adroddodd iddynt yr hanes yn llawn—o'r adeg y clywsai gyntaf gan yr hen Gapten Morris am y trysor hyd ymadawiad y pedwar lledfegyn yn y cwch o'r "Arfonia" am yr ynys. Gwrandawai Dafydd yn astud. Wrth i Harri ddweud yr hanes, deuai i'w gof y digwyddiad yn y "Blodwen" yn Hamburg ers llawer dydd; ac yn awr, wrth wrando'r stori, deallai lawer peth fuasai'n ddirgelwch iddo hyd hynny.
"Rhaid i ni alw heibio'r ynys," ebe Dafydd, wedi i Harri orffen ei adroddiad, "nid ydyw ymhell o'n cwrs. Gad'wch i ni weld y chart."
Ac ar ôl astudio'r chart am ychydig, ychwanegodd, "Dyma hi. Yr ydym o fewn llai na chan milltir iddi." Plygai'r ddau arall dros ei ysgwydd i sylwi ar safle'r ynys, ac ar safle'r llong ar y pryd, fel y dangosai Dafydd ef â'i fys. Cyn pen ychydig iawn o oriau, daeth yr ynys i'r golwg ar y gorwel, a dwy awr arall a'u dug hwynt at