"Tipyn dros wyth mlynedd," ebe Harri.
"Ie, wyth mlynedd," murmurai William Jones wrtho'i hun yn synfyfyriol, " ac mae Twm Dafis wedi fy ngadael ers mwy na hanner hynny'n siwr i chi. Ond mi ddechreua i 'r hanes o'r dechrau. Wedi i ni gyrraedd yma'r noson honno yn y cwch, mi dorrodd ystorm ofnadwy dros yr ynys, a bu raid i ni geisio llechu'n rhywle orau allem. Wedi i'r storm fynd heibio, gwneud ddaru ni, wrth gwrs, am y pwynt tua'r gogledd yn ôl y plan. Ond fel yr ydach chi feallai wedi sylwi, 'does 'ma 'run trwyn o dir yn rhedeg tua'r gogledd. Mae'r ynys bron yn gron, heb na bau na thrwyn, a choed yn tyfu ar bob rhan ohoni. Fe welsom felly'n union fod rhyw gamgymeriad yn rhywle. Hon ydyw Rahiti, 'does dim amheuaeth, ond nid plan o'r ynys hon oedd ar y papur. Wel, mi aeth yn ddrwg iawn rhyngom ein pedwar. Yr oedd y ddau arall am waed Twm Dafis a minnau am eu twyllo a'u camarwain, ac yn ein bygwth â'u cyllill. Barnodd Twm a minnau nad oedd yn ddiogel i ni gysgu yn eu hymyl y noson honno, ac aethom ym min yr hwyr oddiwrthynt i ran arall o'r ynys. A dyna'r tro diweddaf i ni weld y ddau. Pan ddaethom ymhen rhai dyddiau i'r lle y gadawsem y cwch, 'doedd dim golwg ohono, nac o'r ddau filain ychwaith. Yr oedd yn eithaf gennym eu bod hwy wedi diflannu, ond beth wnaem heb y cwch? Yr oedd ar ben arnom i fynd oddiyma, oddeithr i ryw long ddod heibio i ni. Wn i ddim i ble'r aeth y ddau— pa un ai boddi fu eu hanes, ynteu a gawsant i ryw ynys arall.
Wel 'does dim angen i mi ddweud sut y buom byw. Mae yma gyflawnder o ryw fath o fwyd, ac fe wnaethom ryw gwt bychan i'n cysgodi. Er edrych bob dydd am long, nid oedd yr un yn dod, a phenderfynasom geisio llunio rhyw fath o gwch i geisio mynd oddiyma. Ond gwaith go anodd oedd hynny heb arfau na dim pwrpasol at y gwaith. Ond yr oeddym wrthi'n ceisio gwneud un pan darawyd Twm yn wael. Yr oeddwn wedi sylwi ers dyddiau fod rhywbeth arno. Yr oedd yn ddistaw a diysbryd, ond yn rhyw dreio llusgo ymlaen