XVII. CAEL Y TRYSOR
PAN ddaeth ei hen gartref i'r golwg unwaith eto dros y gorwel, teimlai Harri atgofion y gorffennol yn codi rhyw hiraeth arno. Dodwyd yr angor i lawr ryw hanner milltir o'r lan, ac o olwg y bau yr oedd y cuddfan tybiedig yn ei ymyl, ac aeth Harri a Dafydd yn y cwch i'r ynys. Yr oedd yn hwyr yn y prynhawn arnynt yn cyrraedd y tir, ac ni chollasant amser i fynd i'r fan cyn iddi nosi. Yr oedd y coed yno yn ôl y plan, er gwaethaf yr ystormydd gurasai ar yr ynys er pan guddiasid y trysor.
"Dyma'r lle," ebe Harri, gan sefyll rhwng dwy goeden dyfai o fewn rhyw lathen i'w gilydd.
"Beth wnawn ni?" ebe Dafydd, " a gloddiwn ni 'rwan liw dydd, ynteu dod yma wedi nos? Mae lampau gennym."
"Mae'r haul bron mynd i lawr," ebe Harri, " mi ddaw yn nos cyn y dechreuwn."
"Does dim arwydd bod neb wedi bod yma ers oesoedd," ebe Dafydd, " os claddwyd rhywbeth yma, y tebyg ydyw mai yma y mae."
A chyda hynny taflodd y nos ei mantell drostynt, fel na welent mo'r naill y llall. Goleuwyd y lanternau, a dechreuwyd cloddio mewn distawrwydd. Yn araf yr oedd y gwaith yn mynd ymlaen—y ddau yn anghynefin â gwaith o'r fath, a'r tir wedi caledu ac yn llawn o wreiddiau gwydn.
Daliwyd i gloddio. Fel yr aent yn is, nid oedd lle i'r ddau weithio, ac felly gweithiai un gyda'r rhaw a'r gaib, tra'r llall yn dal y goleuni iddo.
"Does yma ddim yn y fan hyn," ebe Harri, wedi cloddio i lawr tua dwy droedfedd.
"Gad i ni dreio dipyn yn nês i fôn hon," ebe Dafydd, "mae rhywbeth yn dweud wrtha i mai'r ffordd hyn y mae o."