yr hyn oedd farwol ohono drannoeth yn nyfroedd y Môr Tawelog,—Peter Jones yn darllen y gwasanaeth claddu yngwydd holl aelodau'r criw.
Caed mordaith lwyddiannus i afon Llundain. Yr oedd Harri a Dafydd wedi cytuno mai rhoi adroddiad i swyddogion y Llywodraeth am yr ynysoedd a'r trysor gloddiwyd fyddai orau, a phan fyrddiwyd y llestr gan swyddogion y dollfa (Custom House) adroddwyd yr hanes wrthynt, a chyflwynwyd y gist i'w gofal. Er cymaint brys oedd ar bob un ohonynt i fynd adref i Finymor, bernid mai ysgrifennu at William Gruffydd fyddai orau'n gyntaf i'w hysbysu o'u dyfodiad, ac i gael gwybod ganddo sut y daliasai Gwen Jones y newydd rhyfedd. Daeth gair yn ôl yn hysbysu ei bod yn ddiogel iddynt ddychwel i Finymor, a bod y newydd wedi creu syndod a llawenydd mawr trwy'r ardal.
Cychwynnwyd am Ogledd Cymru gyda'r trên cyflym, ond symudai lawer yn rhy araf i fodloni Harri, gan ei awydd angerddol i weld ei fam.
Ni fu erioed y fath dderbyniad i neb ym Minymor ag a gafodd y tri gwron. Yr oedd degau o bobl yn y stesion yn eu disgwyl, a banerau yn chwifio o bob tŷ yn y pentref. Hebryngwyd hwynt i Fwlchglas gan dorf liosog ynghanol banllefau o lawenydd, a bu braich dde Harri'n boenus am ddyddiau ar ôl ysgwyd llaw gyda chynifer. Ni raid dweud am lawenydd Gwen Jones o dderbyn y ddau golledig yn ôl, ond tynnwn y llen dros yr olygfa yn y gegin y noson honno rhag gwneud cam â hi wrth geisio ei disgrifio.
Bu'r ddau ddychweledig yn wrthrychau sylw a siarad am ddyddiau, a llawer o holi fu arnynt am y profiadau yr aethent trwyddynt. Llithrodd ryw gymaint o hanes y trysor allan rywsut, yn anghywir iawn, wrth gwrs, ac yr oedd cryn gywreinrwydd i wybod y gwir amdano.
Ymhen rhai wythnosau, daeth gwys i Peter Jones a Harri i fynd i Lundain at yr awdurdodau ynghylch