Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ynys y Trysor.djvu/189

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr ynysoedd ddarganfyddasent a'r trysor a ddygasent adref. Yr oedd Dafydd wedi dychwel yno o'u blaen i ofalu am ei long a'r llwyth, a daeth i'w cyfarfod i fynd gyda hwynt at swyddogion y Llywodraeth. Derbyniodd y tri gyfran sylweddol bob un o werth y trysor, a gwrandawyd yr hyn oedd ganddynt i'w ddweud am y ddwy ynys y proffesent eu bod wedi eu darganfod. Ond er i Harri a Peter Jones roi disgrifiad manwl o'r ynysoedd, ac i Dafydd geisio profi eu lleoliad, ac nad oeddynt ar y chart, ysgwyd eu pennau'n anghrediniol a wnai'r swyddogion.

"Mae'n anhygoel i ni," meddent, "fod ynysoedd eto heb eu darganfod ym Môr y De, a chymaint o fasnachu sydd y ffordd honno. Mae'n rhaid mai ar rai o'r ynysoedd sydd yn cael eu nodi ar y chart y buoch, ond eich bod heb leoli eich hunain yn briodol." Ac ar hynny y bu raid bodloni. Teimlai'r tri dipyn yn dost na chredid eu tystiolaeth gan yr awdurdodau, ond wedi mynd allan o'r swyddfa, meddai Peter Jones, "Hwyrach mai gwell i ni eu bod yn gwrthod ein credu. Fe gawn, felly, ryddid i fasnachu å'r brodorion, a cheisio gwneud lles iddynt yn ein ffordd ein hunain." Ac a hyn ar ôl ystyriaeth y cytunai'r ddau arall.

Anfoddlawn oedd Dafydd a Peter Jones i dderbyn dim o werth y trysor, gan y teimlent mai eiddo Harri ydoedd. Ond mynnai Harri iddynt gadw'u cyfran. Cafwyd o'r anhawster trwy i'r tri roddi swm da o'u cyfran i bwrcasu agerlong i fasnachu â'r ynysoedd, Dafydd i fod yn gapten arni. A chyda'r arian gaed am y llwyth, prynwyd nwyddau at wasanaeth yr ynyswyr. Ni anghofiodd Harri am eu hangenion meddyliol ac ysbrydol. Aeth at Gymdeithas Genhadol Llundain i weld beth oedd ganddynt yn iaith ynyswyr Môr y De, a phrynodd nifer mawr o lyfrynnau yn yr iaith rhannau o'r Ysgrythur, emynau, a llyfrau da eraill. Hefyd, lechau a llyfrau i ysgrifennu ynddynt, ac argraff-wasg fechan, syml at ei wasanaeth ei hun ar yr ynys.