i'w wneud ond hysbysu'r ddau arall yn frysiog, a gwadnu nerth eu traed rhag cael eu dal, gan adael Harri i gymryd ei siawns. Ar ben uchaf y goeden yr oedd Harri'n torri coed crin, ac yn eu taflu neu eu cicio i lawr heb wybod bod Huw Tomos yno, a'i dri chyfaill wedi ffoi. Chwarae teg i Dafydd, fe geisiodd chwibianu ar Harri i'w rybuddio, ond ni chlywodd Harri ef gan ei fod yntau'n chwibianu'n ddifyr fel aderyn mewn llwyn, wrth ei hoff orchwyl.
"Dyma i chi frigyn da, hogia," gwaeddai cyn hir, gan daflu cangen grin anferth i'r llawr, a'r munud nesaf clywodd rêg arswydus, a ddywedai wrtho fod rhywun amgen na'i gyfeillion wrth fôn y pren. Adwaenodd Harri'r llais garw fel eiddo Huw Tomos, a chasglodd oddiwrth y rêg fod y pren naill ai wedi'i daro neu wedi'i ddychrynu'n anghyffredin.
"Chdi sydd 'na, Harri?" meddai Huw Tomos mewn llais digofus, "aros di, ngwas i, nes doi di i lawr. Mi ddysga i i ti dresmasu ar fy nhir i, a cheisio fy lladd."
Tremiodd Harri mewn distawrwydd i lawr rhwng y cangau, ac er ei bod yn dechrau tywyllu, nid oedd yn rhy dywyll iddo allu gweld Huw Tomos yn edrych i fyny tuag ato, a bod ganddo bastwn mawr yn ei law. "Tyrd i lawr. Waeth i ti'n fuan nag yn hwyr. 'Rydw i'n siwr ohonot ti," meddai Huw Tomos drachefn ar ôl ysbaid o ddistawrwydd.
Ond nid oedd Harri mewn brys i ddisgyn.
Cyn hir, gwelai Huw Tomos yn eistedd wrth fôn y goeden, ac yn paratoi i gymryd mygyn. Profai hynny fod yr amaethwr am ei waed, ac am aros yn amyneddgar hyd nes y disgynnai.
Ond nid oedd Harri'n awyddus i ddisgyn i grafangau Huw Tomos, os gallai beidio. Ac fe allai, ond iddo frysio cyn iddi fynd yn rhy dywyll. Llithrodd yn ysgafn ar hyd cangen nes cael gafael ar gangen o'r goeden agosaf ato, a thynnodd ei hun i'r goeden honno. O honno drachefn, ymgripiodd i'r nesaf ati, ac felly yn y blaen, nes cyrraedd i'r goeden bellaf yn y llwyn oddiwrth Huw Tomos. Yna llithrodd i'r llawr yn