Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ynys y Trysor.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

misoedd yr haf, a llawer o hwyl a gaed yno o dro i dro. Arweiniai ffordd o ymyl y siop yn y pentref heibio Bwlchglas i lawr i lan y traeth, ac yn y fan lle y deuai'r ffordd i'r traeth, yr oedd bau bychan neilltuol o brydferth ar ffurf hanner crwn,—yn dywod sych glân ar drai hyd at lan yr afon, gydag ymyl lydan o gerrig mân llyfn rhynddo â'r clogwyni coediog cysgodol, lle terfynai'r tir. Ar y naill ben a'r llall i'r bau, safai craig ddanheddog fel gwyliedydd. Pan y byddai llanw uchel, golchai'r môr hyd at y clogwyni, fel na ellid tramwy glan y traeth o graig i graig. Ar lan y bau, yn ymyl y fan lle deuai'r ffordd iddo, y safai Glandon, cartref Dafydd. Pan welai Harri blant o'r pentref yn pasio'i gartref tua'r traeth, ni allai orchfygu'r demtasiwn i'w dilyn, ac os na byddai Dafydd ar y traeth eisoes, chwibaniad gan Harri gyferbyn â Glandon a'i dygai mewn amrantiad at ei ochr.

Draw ar y traeth gyferbyn â bau Glandon, safai ynys gron—un ddigon mawr i gynnal amaethwr ar ei thir. Dywedai"r hen drigolion mai ar hyd y ffordd o Finymor at Glandon yr âi pobl yn yr amser gynt i groesi'r traeth, ac mai arweinydd i dywys y teithwyr drosodd yn ddiogel i'r lan arall drigai yng Nglandon. Dywedent hefyd y cofìent adeiladu llongau yn y bau. Ond nid oedd y naill na'r llall o'r pethau hyn yn bod erbyn amser Harri,—cedwid ychydig gychod yn y bau fel y cawn sylwi eto; ar wahân i hynny, chwaraele plant dedwydd oedd y bau, ac nid oedd neb a fwynhai'r lle'n fwy na Harri a Dafydd.

Ni chaed hwyl heb fod perygl ynglŷn wrtho—yn wir, yn y perygl yn aml yr oedd yr hwyl. Lle peryglus iawn i rai anghynefin ag ef oedd y traeth, hynny yw, os gadewid y lan, a rhybuddid y plant yn aml gan eu rhieni i beidio mynd yno, ac i beidio ymdrochi ar un cyfrif. Ond gwyddai Harri a Dafydd ddaearyddiaeth a "moryddiaeth" y traeth i'r dim. Gwyddent am y mannau diogel i ymdrochi ynddynt, ac am bob trobwll a llyn peryglus. Gwyddent hefyd am y mannau lle y gellid croesi'r afon fawr ar ddistyll trai i Ynys Hwyfar neu i'r lan arall heb fynd dros eu penliniau,