ac ni ddaethant i feddu'r wybodaeth hon heb wynebu peryglon y traeth twyllodrus.
Gellid croesi'r traeth, fel y crybwyllwyd, ar ddistyll trai heb fynd dros y pen lin yn y dwfr, ond gwybod y mannau; ac oherwydd mai tywod ansicr oedd glannau'r afon yn y traeth, nid yn yr un mannau y gellid croesi bob amser. Newidiai'r afon ei gwely o flwyddyn i flwyddyn, a rhaid wrth rhywun pur gynefin â'r lle i wybod y mannau i groesi, ac nid oedd neb wyddai'n well na Harri a Dafydd. Ond er eu cynefindra â'r lle, buont mewn perygl droeon.
Tra y chwaraeai'r plant eraill tua'r glannau, naill ai yn y tywod, neu yn y cerrig, gwell gan Harri a Dafydd oedd anturio at yr afon fawr a'i chroesi. Weithiau, aent mor bell ag Ynys Hwyfar, gan ofalu dychwelyd cyn i'r llanw ddod i mewn. Un tro, bu iddynt aros ar yr ynys yn rhy hir. Daeth y llanw i mewn, a gorfu iddynt fynd drosodd o'r ynys i'r lan arall (ni fyddai'r llanw'n dod i fyny mor gyflym yr ochr honno), a cherdded adref dros y bont a groesai'r afon ryw dair milltir yn uwch i fyny, lle yr oedd yr afon gryn lawer yn gulach. Buont yn fwy gofalus ar ôl y daith faith honno o chwe milltir rhag cael eu cau ar Ynys Hwyfar, ond aethant i fwy o berygl i'w bywydau un tro ar ochr eu cartref i'r afon.
Digwyddodd un prynhawn yng ngwyliau'r haf, pan oedd Harri'n un ar ddeg oed, fod y ddau wedi mynd ar drai i chwarae mewn tywod yn bur bell o'r lan, a'r fath oedd eu diddordeb yn y chwarae fel y daeth y llanw i mewn heb yn wybod iddynt. Bloedd oddiar y lan barodd iddynt godi eu golygon o'r tywod, a gweld bod y llanw ar eu gwarthaf a'r môr eisoes wedi cau rhyngddynt â'r lan. Yn y traeth hwnnw, daw'r llanw i mewn gyda rhyw gyflymder aruthrol, a byr amser gymer y dwfr i ordoi'r gwastadedd fuasai ar drai'n dywod. Sylweddolodd y ddau fachgen y perygl—nid oedd ond ychydig o wyneb y darn tywod y chwaraeent arno heb ei orchuddio, ac yr oedd yr ynys fechan o dywod y safent arni'n mynd yn llai bob eiliad. Gwyddent fod y dwfr rhyngddynt â'r lan yn