Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ynys y Trysor.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddwfn mewn rhai mannau, a'r llanw'n ysgubo i fyny'r traeth gyda grym arswydus. Nid oedd y ddau ar y pryd ond newydd ddysgu nofio, a gwyddai Harri na allent obeithio cyrraedd y lan pe ceisient nofio—buasai'r llanw'n sicr o'u hysgubo ymlaen yn ddi-drugaredd. Ni allent weld neb ond geneth ar y lan; ni allai honno eu hachub gyda chwch, a phe buasai'n mynd i chwilio am gymorth iddynt, ni allai hwnnw ddod mewn pryd. Nid oedd neb adref yng Nglandon—yr unig dŷ o fewn cyrraedd.

Yn sydyn, fflachiodd i feddwl Harri y buasent yn ddiogel pe gallent fynd i'r Graigddu. Darn o graig oedd honno'n ymgodi o'r tywod ynghanol y traeth, ac ar spring tide yn unig y gorchuddid hi â dwfr, ac i ychydig ddyfnder yn unig ar yr adeg honno, hyd y gwyddai'r bechgyn. Gwyddai Harri fod llain o dywod heb fod ond ychydig ddwfr arno rhyngddynt â'r graig, y gallent gerdded ar hyd-ddo i ddiogelwch y graig, er bod perygl o golli'r lle bas, a mynd i bwll dwfn y naill ochr a'r llall.

Nid oedd amser i'w golli. Symiodd Harri'r sefyllfa i fyny mewn dau eiliad—llai o lawer nag a gymer y darllenydd i wneud hynny wrth ddarllen y disgrifiad uchod.

"Tyrd ar f'ôl i, Dafydd," meddai, "a chymer ofal."

Ymlaen â hwy'n ofalus, a llwyddasant i gyrraedd y graig. Yr oedd wyneb y dŵr ar y pryd gryn droedfedd yn is na man uchaf y graig, ond yn prysur ymgripio'n uwch, uwch. Ar y man uchaf ar y graig nid oedd ond prin le i'r ddau fachgen sefyll.

"Does dim peryg i ni foddi yn y fan hyn, Dafydd," meddai Harri, ar ôl iddo gael ei anadl.

"Nag oes, ond mi fydd y graig dan ddŵr heno. Yr oedd hi o'r golwg neithiwr, a fory mae'r dŵr ucha, meddai nhad," oedd ateb digalon Dafydd.

"O! fyddwn ni ddim llawer gwaeth o wlychu tipyn," meddai Harri'n galonnog, "ac efallai y daw rhywun i lawr i'r traeth cyn hir, ac y cawn ni'n hachub heb wlychu."