thraw ar ei wyneb. O'r fan y safai gwelai'r ddwy afon yn ymgyfarfod cyn ymgolli yn y dyfnfor. Odditano, tua'i aswy, gwelai borthladd yr Aber yn llawn o longau, a thrên yn cychwyn oddiyno am Finymor. Pan oedd bron wedi ymgolli yn y golygfeydd, sylwodd fod y dynion yn dod at y tŷ o'r cae gwair, ac, i osgoi cwestiynau, ymaith ag ef ar hyd y ffordd drol a arweiniai o'r ffermdy i'r briffordd redai rhwng yr Aber a Minymor; ond wedi mynd o olwg y tŷ, trodd o'r ffordd, gan gyfeirio'i wyneb tua'r traeth a'r man y gadawsai'r cwch. Yr oedd y trai wedi gwneud ei ôl ar y traeth erbyn hyn—y cwch ar dir sych, a dim ond ychydig ddwfr i'w weld yn unman oddieithr yn yr afon fawr redai drwy ganol y gwastad tywodlyd tua'r môr.
Beth i'w wneud nesaf? dyna'r cwestiwn. Yr oedd wedi cael pryd da o fwyd, a chyda'r hyn oedd ganddo yn ei logell, gallai wneud yn burion tan drannoeth. Gwyddai fod y newydd bellach wedi cyrraedd clustiau ei fam, ac mai cosb oedd i'w ddisgwyl ganddi hi a Chapten Morris pa bryd bynnag y dychwelai. Yr unig ffordd i leihau y gosb, o bosibl, fyddai mynd a'r cwch yn ôl yn ddiogel i'r angorfa. Ond gwyddai Harri adeg y llanw'n bur dda; ni wnai'r llanw ddechrau rhedeg cyn deg o'r gloch, a byddai'n hanner nos cyn y nofìai'r cwch. A sut byth y gallai ffeindio'r bau ynghanol y tywyllwch? Byddai hynny'n hollol amhosibl, ac felly dau gynllun yn unig oedd yn agored iddo—naill ai gadael y cwch yno a mynd adref i wynebu ei fam a'r Capten digllon, neu aros yno tros y nos a cheisio mynd a'r cwch i fyny'r afon ar y llanw prynhawn trannoeth. Pe gallai ddiogelu'r cwch dros y nos, gwell fuasai ganddo'r cynllun cyntaf, ond er mwyn ceisio achub y cwch, penderfynodd ar y diweddaf, er y golygai hynny iddo orfod wynebu noson o ofn, unigedd, ac anghysur, a dioddef pangfeydd o newyn, o bosibl, drannoeth. Wedi penderfynu, aeth ati o ddifrif i geisio diogelu'r cwch rhag cael ei gludo ymaith, neu gael ei guro'n erbyn y creigiau pan ddeuai'r llanw i fyny. Cerddodd hyd y traeth i chwilio am garreg fawr, ac wedi ei chael, llusgodd hi dros y tywod at y