Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ynys y Trysor.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cwch, ac yna cylymodd y rhaff amdani mor dyn ag y gallai. Tynnodd yn y rhaff a'i holl nerth i'w phrofi, ac yr oedd y cwlwm yn dal. Ond i gael dwbl sicrwydd, dygodd garreg arall, a gosododd hi i bwyso ar y rhaff yn ymyl y llall. Gofalodd ddodi'r cerrig ar yr ochr agosaf i'r afon i'r cwch, a mwy na hyd y rhaff oddiwrth y creigiau fel na churid y cwch yn eu herbyn pan godai'r llanw. Gwelai fantais arall o hyn. Byddai i'r llanw gyrraedd hyd at y cwch ynghynt drannoeth, ac felly cyrhaeddai yntau adref ynghynt.

Erbyn hyn yr oedd yn dechrau nosi. Penderfynodd Harri fynd i eistedd yn y cwch dros y nos, a bwriadai gadw'n effro hyd y gallai. Pan oedd y tywyllwch yn dechrau cau amdano, aeth i'r cwch i eistedd. Teimlai yn bur hyderus ei fod wedi diogelu'r cwch, ac y byddai i'r anturiaeth ddiweddu'n llwyddiannus. Yr unig beth y gresynai o'i herwydd oedd na b'ai Dafydd Glandon gydag ef, ond meddyliai am yr hwyl gai wrth adrodd yr hanes i Dafydd, ac am syndod Dafydd a'r plant eraill pan ddychwelai drannoeth. Teimlodd fod arno dipyn o eisiau bwyd, a chofiodd am y lluniaeth yn ei logell. Tynnodd ef allan, ac er ei fod yn dechrau sychu, ac wedi ei falurio yn ei logell, yr oedd yn dda iawn, a chydag anhawster y gallodd y bachgen orchfygu ei hun i gadw ychydig ohono hyd y bore. Wedi bwyta, cofiodd yn sydyn fod cist fechan gan y Capten o dan y sedd ymhen ôl y cwch, lle y cedwid gwahanol gelfi hwylus ynglŷn â'r cwch. Yr oedd yn rhy dywyll, bellach, i chwilio'r gist, ond addawodd Harri wrtho'i hun mai dyna fyddai'r gorchwyl cyntaf drannoeth, a gobeithiai gael rhywbeth ynddi a'i cynorthwyai i lunio rhyw fath ar rwyf i'w helpu i fynd yn ôl.

Nid oedd ganddo ddim i'w wneud bellach ond eistedd yn llonydd, ac O! yr oedd yn unig arno. Bron nad oedd y distawrwydd yn codi arswyd arno—dim math o sŵn yn unman ond si yr awel ysgafn yn nail y coed oedd ar y llechwedd uwch ei ben. Yr oedd yn haws lled-orwedd nac eistedd, gan fod y cwch ar ei ochr, ac yr oedd yr ystum yn fantais i gwsg ei orchfygu, gan ei fod yn arferol a noswylio yn gynnar, ac yn fuan