Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ynys y Trysor.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrth sylwi ar yr haul oedd bron yn gorffwys ar ben y mynyddoedd tua'r dwyrain, ac yn anweledig hyd nes y daethant i ochr y bryn, mai cynnar iawn ydoedd ar y dydd. Yn ymyl llidiart buarth Bryneryr, meddai'r Capten wrtho, "Mae Lisa'n dy ddisgwyl di, ddyliwn," gan bwyntio at y mwg esgynnai'n syth o simdde'r tŷ, ac, ar y gair, cofiodd Harri fod gwraig Bryneryr yn chwaer i wraig y Capten, a thybiodd mai trwyddi hi, rywfodd, er na wyddai sut, y daethai'r Capten i ddod o hyd iddo.

Ac ar ôl iddo gael bwyd, holwyd ef am yr anturiaeth gan y Capten, yr hwn a fwynhai'n fawr adroddiad Harri o'r hanes, ac wedi iddo orffen, meddai, dan chwerthin yn galonnog, " Wyddost ti beth, 'rydw i 'n meddwl mai ail Robinson Crusoe fyddi di."

Bob yn dipyn, daeth Harri i ddeall y modd y deuthpwyd o hyd iddo ef gan y Capten. Ymddengys bod mab Bryneryr wedi mynd i Finymor y noson gynt at y Côr Meibion, ac iddo ddeall bod berw mawr yn y pentref am fod bachgen ar goll. Galwodd i weld ei ewythr, y Capten, a chan ei fod wedi clywed gan ei fam hanes ymweliad Harri â'i gartref, adroddodd yr hyn wyddai wrth y Capten. Daeth y Capten i'r casgliad mai'n rhywle yng nghymdogaeth Bryneryr yr oedd Harri a'r cwch, ac ar ôl galw gyda Gwen Jones i'w hysbysu o'i ddamcaniaeth, a'i chynghori i beidio pryderu, daeth gyda'i nai i Fryneryr dros y nos, ac yn blygeiniol drannoeth yr oedd ar y traeth yn chwilio am y cwch, gyda'r canlyniad iddo'i gael fel yr adroddwyd.

"A'r cwestiwn nesaf," meddai'r Capten, "ydyw sut yr awn ni adref."

"Roeddwn i 'n meddwl mynd hefo llanw'r pnawn," ebe Harri.

"Ond beth wnawn ni am rwyfau?" gofynnodd y Capten.

"Meddwl chwilio am ddwy gangen go dda, 'roeddwn i," ebe Harri, "a'u gwneud mor atebol i'r pwrpas ag y gallwn."

"Mae yma ddwy hen rwyf er pan fu gennym ni gwch," ebe John, mab Bryneryr.