Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ynys y Trysor.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac wedi cloi'r drws, tynnodd o'r amlen bapur cyn felyned â'r amlen, a thaenodd ef ar y bwrdd. Gwelodd Harri arno plan neu map o rywbeth, ac ysgrif dano, a safodd yn fud i glywed beth oedd gan yr hen Gapten i'w ddweud. "Dyma i ti yn y fan hyn," meddai, gan bwyntio â'i fys, " map o ynys yn y Môr Tawelog. Un o'r Samoa Islands ydyw yn ôl y disgrifìad, un o'r rhai lleiaf ohonynt. Mi wyddost lle mae'r Samoa Islands?"

"Gwn," ebe Harri.

"Wel, Rahiti ydyw enw hon. Mae'r ysgrif yma'n dweud—Hispaneg ydyw—fod trysor wedi ei guddio ers rhyw oes ar yr ynys hon, a dyma'r ffordd i ffeindio'r lle. Weli di'r trwyn tir yma'n ymestyn i'r gogledd? Mae ar y trwyn yma nifer o goed yn sefyll yn gylch. Mae dwy ohonynt yn agos iawn i'w gilydd, a rhwng y ddwy yna mae'r trysor cuddiedig. Dyma groes ar y map, weli, yn dangos y lle."

Edrychodd Harri i wyneb y Capten ag anghrediniaeth wedi'i argraffu ar ei wedd. Ai tybed fod y Capten yn dechrau drysu? Ni welsai ef erioed mor ryfedd a'r prynhawn hwn.

"Mae o 'n ddigon gwir i ti," ebe'r Capten, gan sylwi ar wyneb anghrediniol Harri. " Pe bawn i 'n iau, mi faswn wedi bod yno cyn hyn."

"Synnu 'rydw i," ebe Harri, " na basach chi wedi bod yno, a'r papur 'ma gynoch chi ers talwm."

"Does dim cymaint a hynny ers pan y mae'r papur gennyf. Gwrando, mi ddweda i wrthat ti sut y cefais i o. Ar fy mordaith olaf hefo'r hen long, y "Lark," 'roedd Hispaenwr yn un o'r criw, ac fe fu farw ar y môr. Ganddo ef y cefais i'r papur, ac yr oedd yn sicrhau bod y peth yn wir. A 'rwan, 'rydw i 'n disgwyl y gelli di fynd yno—nid ar dy fordaith gyntaf, mae'n siwr; ond pan basi di'n gapten, a chennyt long dy hun, mi elli fynd, ac os byddi di'n llwyddiannus, mi gofi, mae'n siwr gennyf, am yr hen wraig 'ma, os bydda i wedi mynd. Mi gadwa i 'r papur yn saff, nes y bydd arnat ti ei eisio fe." A chyda hynny plygodd ef yn ofalus yn yr amlen, a dododd ef yn Ô1 yn y gist, gan ei chloi'n