ddiogel fel cynt. Wedi hynny edrychodd drwy'r ffenestr, ac meddai, wrth weld y glaw yn dal i ddisgyn, "Wyddost ti be, mae hi wedi bwrw'n ofnadwy, fachgen. Welais i 'rioed gymaint o law o'r blaen tuallan i'r tropics."
"Mi fydd yn bwrw'n arw yno, fydd hi, Capten Morris?" gofynnai Harri.
"Bwrw! f'aswn i 'n meddwl, wir. Fasa ambarel na chôt law'n dda i ddim yno. Tywallt fel o grwc y bydd hi pan fydd hi wrthi hi. Ond mi fydd 'na le garw yn y traeth heno pan ddaw'r llanw i fyny."
"Ydach chi'n meddwl y bydd y Morfa'n saff, Capten?"
"Yn wir, mae'n amheus gennyf i," oedd ateb swta'r Capten, ar ôl ennyd o ystyriaeth, a'r bibell yn dyn rhwng ei ddannedd. Er mwyn i'r rhai nad ydynt gyfarwydd â chymdogaeth Minymor gael syniad gweddol glir am yr hanes sy'n dilyn, dylem ddweud mai tŷ bychan oedd y Morfa, digon drwg ei gyflwr, ar lan y traeth. tipyn yn uwch i fyny'r afon na bau Glandon, cyrchfan trigolion Minymor. O gwmpas y Morfa, yr oedd gwastadedd y traeth yn lletach, a darn o dir gwastad—glasdraeth lle y porai defaid—ryw ychydig droedfeddi'n uwch nag arwynebedd y tywod. Ar ymyl y glasdraeth— yr ymyl nesaf i'r tywod, y safai y Morfa, amaethdy bychan pur henafol, lle y preswyliai dyn o'r enw John Thomas, a'i wraig a'i blant. Pan gyd-ddigwyddai llanw mawr a lli, codai'r dŵr nes gorchuddio'r glasdraeth, a chau teulu'r Morfa i mewn.
Wedi syn-fyfyrio am ennyd, gan gnoi blaen y bibell yn ffymig, tynnodd yr hen forwr y bibell o'i enau'n sydyn, a chan boéri ar lawr, meddai mewn llais cynhyrfus,
"Taswn i 'n lle John Thomas, arhoswn i ddim yn y Morfa heno."
"Mae'n debyg gin i y bydd o 'n ddigon call i fynd oddiyno," ebe Harri.
"Wn i ddim, ond dyna fyddai'r goreu iddo fo," ebe'r Capten, ar ôl dwys ystyriaeth am funud neu ddau.